Ateb y Galw: Cyn-chwaraewr rygbi Cymru Stephen Jones
- Cyhoeddwyd

Stephen Jones, cyn-chwaraewr rygbi Cymru a hyfforddwr olwyr y Scarlets sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Peter Rees yr wythnos diwetha'.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Chwarae pêl-droed yn yr ardd gyda fy mrawd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Fy ngwraig. O'dd hi dwy flynedd yn iau na fi'n ysgol, ac fe wnes i briodi hi!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Torri ffenest drws cefn y tŷ yn chwarae pêl-droed.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Tra'n gwylio DIY SOS a Stand Up To Cancer Celebrity Bake Off.

Mae DIY SOS yn helpu i ail-adeiladu cartrefi, fel yn y bennod arbennig yma o Abertawe ar gyfer Plant Mewn Angen - ond yn achosi i ni i gyd grïo, ochr arall y sgrin deledu!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Fi'n rhoi popeth yn y dishwasher! Hyd yn oed pethau sy' ddim i fod yna!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Unrhyw le yn y gorllewin - Cei Newydd yn un o'r ffefrynnau.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson ein priodas gyda'n teulu a ffrindiau i gyd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Fi'n joio byw!

O Archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Outliers, Malcolm Gladwell, a hunangofiant John Wooden.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Keith Floyd ac Oliver Reed achos bydde'r bwyd yn grêt a'r storïau'n wych.

Byddai digon o fwyd, diodydd a sgwrsio ar noson â Keith Floyd!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fi'n Cardi! (Ges i fy ngeni yn Aberystwyth.)
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cymryd fy anadl olaf!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Sosban Fach achos yr atgofion!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Prawn cocktail, stêc a chips, a sticky toffee pudding.

Er ei ddiddordeb cynnar mewn pêl-droed, chwarae rygbi oedd Stephen... er fod yr ymarfer cicio wedi bod o help, mae'n siŵr
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Roger Federer
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Andrew 'Tommo' Thomas