'Drwgdeimlad yn tyfu' yn erbyn carchar ger Port Talbot
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dros 200 o bobl fynychu cyfarfod cyhoeddus nos Iau i drafod cynlluniau ar gyfer carchar mawr newydd ym Mhort Talbot.
Dywedodd AC Llafur Aberafan, David Rees yn y cyfarfod fod "y drwgdeimlad yn erbyn y carchar yn tyfu'n lleol", gan alw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried.
Mae safle'r adeilad arfaethedig yn gorwedd yn agos i'r hen ffatri Panasonic ym Maglan ger yr M4, a'r disgwyl yw y bydd y carchar Categori C yn dal 1,600 o garcharorion.
Ond mae Mr Rees ac AS Aberafan, Stephen Kinnock wedi galw ar y llywodraeth i beidio â gwerthu'r tir ar gyfer y datblygiad.
'Ddim yn addas'
Llai nag wythnos yn ôl dywedodd yr ysgrifennydd gwasanaethau cyhoeddus, Alun Davies na fyddai gweinidogion ym Mae Caerdydd yn cefnogi'r cynlluniau os nad oedd "trafodaethau ystyrlon" yn digwydd rhwng llywodraethau Cymru a'r DU.
Ond mynnodd Mr Rees y dylai'r llywodraeth fynd yn bellach na hynny, gan eu bod yn cyfaddef ar hyn o bryd y bydd trafodaethau'n parhau.
"Dydyn nhw heb ddweud na fyddan nhw'n gwerthu'r tir a dyna beth 'dyn ni angen i Lywodraeth Cymru ei ddweud," meddai.
Ychwanegodd bod nifer o resymau dros wrthwynebu'r carchar newydd, gan gynnwys pryderon am lifogydd ar y safle, yr effaith ar draffig a thrigolion lleol, a'r ffaith ei fod yng nghanol ardal breswyl.
"Yn syml, dyw e ddim yn addas ar gyfer carchar o'r maint maen nhw wedi bod yn ei drafod."
Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr ble mae Adran Gyfiawnder Llywodraeth y DU yn cadarnhau mai Categori C fyddai'r carchar newydd, oherwydd diffyg lle yng ngharchardai eraill de Cymru.
Y gred yw y bydd yn dal hyd at 1,600 o garcharorion, ond dyw'r Adran Gyfiawnder heb gadarnhau hynny.
Yn ystod y cyfarfod fe wnaeth trigolion hefyd godi pryderon ynglŷn â pha mor agos i ysgolion, cartrefi, ysbyty a chartref gofal oedd y datblygiad arfaethedig.