Perchnogion yn pryderu am ddyfodol Radio Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Radio
Disgrifiad o’r llun,

Mae Radio Ceredigion yn darlledu ers 1992

Mae gan berchennog Radio Ceredigion "bryderon difrifol" ynglŷn â dyfodol yr orsaf radio leol.

Mae'r orsaf yn cwestiynu gallu'r ardal i gynnal dau wasanaeth radio lleol yn dilyn ymddangosiad Radio Aber.

Penderfynodd Nation Broadcasting, perchnogion Radio Ceredigion, eu bod nhw am adael i'w trwydded darlledu bresennol ddod i ben.

Cadarnhaodd y grŵp darlledu y bydd cais am drwydded newydd yn cael ei wneud, ond hynny mewn fformat newydd.

Derbyniodd Radio Aber drwydded radio gymunedol gan Ofcom yn ddiweddar, sy'n rhoi'r hawl iddyn nhw ddarlledu yn ardal Aberystwyth.

Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom: "Mae'r penderfyniad i adael i'w drwydded i ddod i ben yn fater masnachol i Nation Broadcasting. Rydym wedi cychwyn ar y broses o ail-hysbysebu'r drwydded ar gyfer Ceredigion."

'Marchnad gyfyng'

Cafodd Radio Ceredigion ei ffurfio yn 1992, cyn i Nation Broadcasting feddiannu'r cwmni yn 2010.

Mae ffigyrau gwrando ar gyfer tri mis olaf y llynedd yn dangos bod cynulleidfa wythnosol o 12,000 gan yr orsaf.

Dywedodd Martin Mumford, rheolwr gyfarwyddwr Nation Broadcasting, bod y cwmni yn bwriadu ail-ymgeisio am drwydded ddarlledu.

"Fel darlledwr cydwybodol, rydym ni yn bendant eisiau parhau gyda'r gwasanaeth"

Er hyn, mae Mr Mumford yn poeni am allu marchnad mor gyfyng â Cheredigion i gynnal dau wasanaeth radio.

'Dim i'w wneud a'r Gymraeg'

Pwysleisiodd Nation Broadcasting nad yw'r penderfyniad i adael i'r drwydded ddod i ben yn ymwneud â'r ddyletswydd bresennol i ddarlledu rhai rhaglenni yn Gymraeg.

"Mae'r penderfyniad yma yn seiliedig ar resymau masnachol yn unig" meddai Mr Mumford.

Nid yw'r cwmni wedi penderfynu ar fformat newydd yr orsaf, pe bai'r cais am drwydded newydd yn llwyddiannus.

Ychwanegodd Mr Mumford: "Byddwn ni nawr yn ystyried sut fyddai'r ffordd orau i ail-ymgeisio am drwydded, wrth gymryd peryglon cynulleidfaoedd bychain, costau darlledu uchel ac incwm gymharol isel i mewn i ystyriaeth."