Gorsaf radio gymunedol newydd i Geredigion
- Cyhoeddwyd
Mae Ofcom wedi cyhoeddi ei fod wedi caniatáu trwydded radio cymunedol newydd yn Aberystwyth.
Dywed Radio Aber eu bod yn gobeithio dechrau darlledu cyn diwedd y flwyddyn.
Yn ôl Al Frean o Radio Aber, gwirfoddolwyr fydd yn cynnal y gwasanaseth a'r nod yw cynnig 50% o'r gwasanaeth yn Gymraeg.
"Mae hwn yn radio i'r gymuned ac un o'r amcanion yw brwydro yn erbyn unigrwydd ac uno cymdeithasau yng Ngheredigion.
"Fe fydd yr orsaf yn rhoi llwyfan i bobl leol allu rhannu eu barn a'u pryderon, gofyn am gymorth, ac i ddarparu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gymuned."
Dywedodd nad yw'r orsaf newydd yn gweld eu hunain fel cystadleuaeth i Radio Ceredigion, radio masnachol sy'n rhan o gwmni Nation Broadcasting ac yn cael ei ddarlledu o Fro Morgannwg.
"Nid ydym yn gweld y byddwn benben â nhw, byddwn ni ddim mewn cystadleuaeth, mae'r amcanion yn wahanol.
"Bydd yr holl wasanaethau radio cymunedol yn ddielw, gan ganolbwyntio ar fanteision cymdeithasol yn ein cymuned ni."
Fe fydd Radio Aber yn cael ei ddarlledu o fast ym Mlaenplwyf.
Mae'r cwmni wedi gwneud cais i ddarlledu i ddalgylch o 20 cilomedr a bydd i'w glywed ar donfedd FM ac ar y we.