41% o alwadau i wasanaethau tân Cymru'n ddiangen

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth tân
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhan fwyaf o alwadau diangen yn rhau awtomatig gan larymau tân

Fe wnaeth diffoddwyr tân yng Nghymru fynychu mwy o alwadau diangen nac unrhyw fath arall o ddigwyddiad dros y pum mlynedd diwethaf.

Yn 2016/17 roedd 41% o'r 37,217 o alwadau yn rhai diangen, gyda 29% o'r galwadau yn danau a 30% yn "ddigwyddiadau arbenigol".

Ar gyfartaledd mae criwiau'n cymryd 23 munud i ddelio â galwad, ac yn costio hyd at £300 ar gyfer pob injan dân.

Mae nifer y galwadau i'r gwasanaeth tân yng Nghymru wedi parhau i ostwng dros y degawd diwethaf.

£3m y flwyddyn

Llynedd fe wnaeth criwiau yng Nghymru fynychu 10,751 tân a 11,248 "digwyddiad arbenigol" fel gwrthdrawiadau car ac achub anifeiliaid.

Ond roedd dros 40% o'r galwadau - 15,218 - yn rhai diangen, ac roedd y mwyafrif o'r rhain yn alwadau awtomatig gan larymau tân.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mai nifer fach o'r galwadau y maen nhw'n ei dderbyn - 5% - sydd yn rhai sy'n fwriadol ddiangen.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth chwe injan dân fynychu galwad diangen ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghasnewydd ym mis Chwefror

Dywedodd adroddiad Llywodraeth Cymru yn 2015 bod galwadau diangen yn costio tua £3m y flwyddyn yng Nghymru, a'i fod yn gallu atal criwiau rhag mynychu tanau go iawn.

Mae rhai gwasanaethau tân yn Lloegr yn codi tâl ar bobl sy'n gwneud galwadau ffug fwy nag unwaith, ond dyw'r rhai yng Nghymru ddim.

'Gwastraffu adnoddau'

Dywedodd Andrew Thomas o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru y byddai hynny'n atal rhai rhag gwneud galwadau diangen, ond ni fyddai'n mynd at wraidd y broblem.

"Yr hyn sydd angen i ni wneud yw deall sut i leihau nifer y larymau sy'n canu, ac unwaith y byddan ni'n gwneud hynny ni fyddai angen i ni gael ein galw," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "ymateb i alwadau diangen yn gwastraffu adnoddau ac yn atal criwiau rhag mynychu digwyddiadau go iawn".

"Er mai perchnogion adeiladau sydd â'r cyfrifoldeb dros alwadau diangen, dylai'r gwasanaeth tân weithredu i geisio peidio eu mynychu."