Tân angheuol Llanelli 'wedi'i gynnau'n ddamweiniol'

  • Cyhoeddwyd
Llanelli

Mae'r heddlu'n dweud eu bod yn credu bod tân angheuol yn Llanelli wedi'i gynnau yn ddamweiniol.

Bu farw Marchello Cusano, 35, yn y tân mewn tŷ ar Heol George am tua 14:10 ddydd Mercher.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys lansio ymchwiliad i achos y tân, gan ddweud ar y pryd bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad.

Ond maen nhw bellach wedi cadarnhau eu bod yn credu bod y tân wedi dechrau ar ddamwain, ac nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Wrth ymateb i'r newyddion ddydd Mercher, dywedodd Sean Rees, cynghorydd tref dros ward Glanymor, fod y digwyddiad yn un "trasig".

"Mae'n meddyliau ni yng nghymuned Glanymor gyda theulu a chyfeillion y dyn a gollodd ei fywyd," meddai.