Carcharu dau am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
Liam Price a Cory KedwardFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Liam Price a Cory Kedward yn rasio pan gafodd Kelly Kennedy ei tharo

Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am achosi marwolaeth dynes drwy yrru'n beryglus yn Abertawe.

Cafodd car Kelly Kennedy, 25, ei daro ar gyflymder wrth iddi yrru adref o'i gwaith ym mis Gorffennaf 2016.

Roedd y gyrwyr Liam Price a Cory Kedward, y ddau yn 23, yn rasio ar gyflymder o 90 mya pan gafodd Ms Kennedy ei tharo, a'i lladd.

Cafodd Price ddedfryd o chwe blynedd a phedwar mis yn y carchar, tra bod Kedward yn wynebu saith mlynedd dan glo.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kelly Kennedy wedi'r gwrthdrawiad ar yr A4067

Roedd Ms Kennedy yn teithio adref o'i gwaith fel gofalwr plant ag awtistiaeth pan ddigwyddodd y ddamwain.

Dywedodd yr erlynydd, Jim Davies, fod Price a Kedward yn rasio ochr yn ochr ar gyflymder uchel.

Ceisiodd Ms Kennedy arafu er mwyn osgoi'r gwrthdrawiad ond cafodd ei tharo gan gerbyd Price.

Roedd Price eisoes wedi cyfaddef achosi marwolaeth Ms Kennedy drwy yrru'n beryglus.

Roedd Kedward yn gwadu ei fod ar fai am y ddamwain, ond cafwyd yn euog gan reithgor mewn achos llys.

Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd teulu Ms Kennedy: "Ni fyddai unrhyw ddedfryd yn ddigon, a ni all unrhyw beth ddod ar hyn rydym ni wedi ei golli yn ôl."