Y bardd Emyr Oernant Jones wedi marw'n 86 oed

  • Cyhoeddwyd
Emyr Oernant Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emyr Oernant Jones yn ffefryn mawr gyda'r gynulleidfa mewn talyrnau

Bu farw'r bardd a'r ffermwr o ardal Aberteifi, Emyr Oernant Jones, yn 86 oed.

Roedd yn aelod poblogaidd o dîm Tanygroes a oedd yn cystadlu yn Nhalwrn y Beirdd yn gyson.

Yn ôl ei gyfaill, y Prifardd Idris Reynolds, roedd Emyr Oernant yn "gymeriad" a oedd yn llenwi'r ystafell.

'Lico cystadlu'

Wrth roi teyrnged, dywedodd: "Tri diddordeb oedd gan Emyr - ffarmio, cynghaneddu a chwist.

"O'dd e'n teithio'n aml i whare whist, a buodd e mas yn whare y noson buodd e farw.

"Roedd e'n lico cystadlu, boed gyda'r whist neu gyda'r gwartheg Holsteins o'dd e'n eu cadw."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emyr Oernant (ch) yn aelod o dîm Tanygroes

Cafodd Emyr Jones ei fagu yn Llwyncelyn, cyn i'r teulu symud i fferm Oernant pan oedd yn ei arddegau.

Yno y buodd yn ffermio gyda'i fab Richard hyd ei farwolaeth.

Ffermio'n ysbrydoliaeth

Yn ôl Idris Reynolds, roedd ffermio a'r tir yn ysbrydoliaeth amlwg yn ei waith barddonol.

"Roedd Emyr yn un da iawn mewn ymryson, pan 'y chi'n cael y tasgau ar y pryd.

"Buodd e sawl tro yn nhîm ymryson Aberteifi, ac roedd e'n ffefryn mawr gyda'r gynulleidfa.

"Dwi'n cofio un tro pan oedd Tudur Dylan Jones yn feuryn, a'r dasg oedd i sgwennu llinell ar y testun 'ceir'.

"Wrth i Emyr adael yr ystafell, fe atgoffodd Dylan e nad testun am dractor oedd hwn, ond ceir.

"Daeth yn ôl i'r ystafell ac adrodd ei linell, sy'n aros yn y cof - 'Rhy araf yw Ferrari i roi her i'n nhractor i'."

Mae'n gadael mab a merch.