Rheolwyr sinema gymunedol yn beirniadu bil o £100,000

  • Cyhoeddwyd
Sinema Brynmawr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd adeilad sinema Brynmawr ei drosglwyddo i ymddiriedolwyr yn 2013

Mae rheolwyr sinema ym Mlaenau Gwent yn anfodlon eu bod wedi cael bil o dros £100,000 cyn y bydd y cyngor yn ystyried trosglwyddo perchnogaeth yr adeilad iddyn nhw.

Mae Ymddiriedolaeth Sinema Neuadd y Farchnad ym Mrynmawr yn honni eu bod wedi eu rhoi mewn sefyllfa bron yn amhosib, yn dilyn blynyddoedd o drafodaethau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Blaenau Gwent eu bod yn "hollol gefnogol" i'r ymddiriedolaeth, ac nad yw'r hyn maen nhw'n ofyn yn "afresymol".

Fe gymerodd gwirfoddolwyr at reoli'r adeilad yn 2013 ar les tymor byr, wedi i'r awdurdod lleol ddweud nad oedden nhw bellach yn gallu fforddio'i gynnal.

'Dyled hanesyddol'

Ddydd Mercher, cytunodd cynghorwyr i drosglwyddo'r adeilad, cyhyd â bod yna gytundeb ar amodau ariannol a chyfreithiol y sinema o fewn pedwar mis.

Mae'r cynnig hwnnw'n cynnwys setlo "dyled hanesyddol", ond mae'r ymddiriedolaeth yn cwestiynu beth yn union sy'n rhan o'r setliad.

"Mae yna bentwr o'r biliau hyn," medd Julian Gardner, Cydlynydd Datblygiad Diwylliannol yr elusen, "ond dim ond rhif sydd arnyn nhw, does yna ddim manylion a oedden nhw i'w gwneud â phrofi asbestos, neu gynnal a chadw trydanol - does gyda ni ddim syniad am beth ry' ni'n dalu.

"Fyddai'r un sefydliad yn talu biliau oni bai bod ganddyn nhw'r holl fanylion.

"Bydd ymddiriedolwyr yn cyfarfod ddydd Iau i feddwl am y cam nesaf a chysylltu â'r cyngor er mwyn gweld a ydyn nhw'n barod i drafod y pwyntiau hyn, achos ar hyn o bryd, mae hi'n ddogfen fydd yn gyrru'r ymddiriedolaeth i'r wal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn barod i gynnal trafodaethau i drafod y ffordd ymlaen

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn mynnu fod yr elusen wedi cael amcan brisoedd ac anfonebau am filiau ynni a gwaith ar yr adeilad, a'u bod yn hollol gefnogol i'r ymddiriedolaeth.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd fod y cyngor yn "ymrwymedig i drafodaethau agored" a'u bod yn cynnig nawdd pellach o £47,000 petai'r ymddiriedolaeth yn barod i dalu £100,000 o gostau eraill.

"Mae'r cyngor angen i'r Ymddiriedolaeth dalu'r gost o lanhau amgylcheddol yn ardal y llyfrgell yn dilyn gwaith adeiladu nad oedd wedi ei awdurdodi, ac a gyfeiriwyd yn ddiweddarach at y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, a chanlyniad hynny oedd cynnal ymchwiliad a rhoi rhybudd i'r Ymddiriedolaeth fod rheolau wedi eu torri.

"Mae'r materion hyn ar gofnod cyhoeddus."

Asbestos

Yn y gorffennol, mae'r ymddiriedolaeth wedi cwestiynu'r ffordd y deliodd y cyngor gyda materion yn ymwneud ag asbestos.

Ychwanegodd y cyngor: "Mae'r cyngor hefyd wedi gwario swm sylweddol o arian ar ddiogelu'r adeilad, gan gynnwys samplo asbestos, gwaith trydanol, larymau tân a goleuadau brys, yn dilyn cynnal gwaith oedd heb ei awdurdodi yn y sinema a'r hen lyfrgell.

"Mae'r Cyngor yn teimlo nad yw hi'n afresymol gofyn i'r Ymddiriedolaeth wneud cyfraniad at y costau hyn, ac mae'r Cyngor yn cynnig rhannu'r costau hyn 50/50.

"Rydym yn deall fod gan yr Ymddiriedolwyr farn wahanol ac mae'r Cyngor unwaith eto'n pwysleisio bod yna wahoddiad i gwrdd â'r arweinydd i drafod ffordd ymlaen y gall y ddwy ochr gytuno arni."