Perfformiad gwaethaf erioed i unedau brys Cymru

  • Cyhoeddwyd
Uned frysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth 5,444 o gleifion ddisgwyl dros 12 awr mewn unedau brys ym mis Mawrth

Fe wnaeth perfformiad unedau brys Cymru waethygu ymhellach ym mis Mawrth i gyrraedd y lefel isaf ers i ffigyrau ddechrau gael eu cofnodi.

Fis diwethaf dim ond 75.6% o gleifion wnaeth dreulio llai na phedair awr mewn uned frys cyn cael eu trin neu symud i ward.

Mae hyn yn cymharu â 75.9% ym mis Chwefror ac mae'n ostyngiad o 5.3% ers Mawrth 2017.

Y targed yw bod 95% o gleifion yn disgwyl llai na phedair awr mewn unedau brys.

Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd, er bod GIG Cymru wedi cael un o'r gaeafau prysuraf erioed, bod y mwyafrif o gleifion wedi cael "gofal amserol a phroffesiynol".

Mwy yn disgwyl dros 12 awr

Targed arall Llywodraeth Cymru yw na ddylai'r un claf dreulio mwy na 12 awr mewn uned frys.

Ond fe wnaeth 5,444 o gleifion hynny ym mis Mawrth - 357 yn fwy na mis Chwefror a 2,253 yn fwy na mis Mawrth 2017.

Ysbyty Maelor Wrecsam oedd y gwaethaf o ran nifer y cleifion fu'n disgwyl dros 12 awr - dros 800 - ond roedd mwy o gleifion wedi cael eu trin yno nac yn y mis blaenorol.

Yn Ysbyty Glan Clwyd fe wnaeth 17.1% o gleifion ddisgwyl dros 12 awr yn yr uned frys - y gyfran uchaf yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y targed ar gyfer cleifion sy'n disgwyl llai na phedair awr yw 95%

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth oedd yr ail brysuraf i unedau brys ers i ffigyrau ddechrau gael eu cofnodi.

"Fe wnaeth y tywydd eithafol ar ddechrau Mawrth ei gwneud yn anodd iawn i'r GIG i weithredu, sy'n amlwg wedi cael effaith ar amseroedd aros mewn unedau brys ledled Cymru," meddai'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Angela Burns mai'r "gwirionedd trist" yw nad yw pobl yn synnu bellach i glywed bod unedau brys wedi cyrraedd y lefel "gwaethaf erioed".

"Rydyn ni oll yn deall y pwysau sy'n wynebu ein staff rheng flaen, ond mae'r rheiny sydd mewn grym yn eu gadael i lawr," meddai.