Cyhuddo pumed dyn wedi ymosodiad ar Ifan Owens

  • Cyhoeddwyd
Ifan OwensFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ifan Owens ddeffro o goma ar 11 Chwefror

Mae pumed dyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiad ar fyfyriwr yn Aberystwyth ar 14 Ionawr.

Cafodd Ifan Owens, 19 o Gaerdydd, ei anafu'n ddifrifol yn y digwyddiad ar Y Stryd Uchel yn y dref.

Fe wnaeth Michael Arwyn Jones ymddangos yn y llys ddydd Mawrth wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad ac o fod â chanabis yn ei feddiant.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf.

Pedwar arall

Mae pedwar dyn arall eisoes wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Fe wnaeth David Lloyd, 25, a Billy Michael Valentine, 19, ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd ar 13 Ebrill i wynebu cyhuddiadau o ymosod.

Diwrnod yn ddiweddarach fe wnaeth Andrew Raymond John Scott, 24, Lee Andersen-Warnes, 20, ymddangos wedi'u cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.

Mae Mr Scott hefyd wedi'i gyhuddo o fod â chanabis yn ei feddiant.