Carwyn Jones: Angen i Lafur Cymru 'sefyll yn unedig'
- Cyhoeddwyd
Mae Carwyn Jones wedi galw ar Lafur Cymru i "sefyll yn unedig" wrth i'r blaid ymgynnull ar gyfer ei chynhadledd.
Dywedodd y prif weinidog bod Llywodraeth Cymru yn cadw at eu haddewidion.
Hon yw'r gynhadledd gyntaf ers y datblygiadau dramatig ddechreuodd gyda marwolaeth Carl Sargeant fis Tachwedd y llynedd.
Bydd y gynhadledd hefyd yn gweld dirprwy arweinydd cyntaf Llafur Cymru yn cael ei phenodi.
Pwysau ar y prif weinidog
Mae'r etholiad rhwng Julie Morgan a Carolyn Harris wedi gweld cystadleuaeth dros faint o ddylanwad ddylai aelodau cyffredin gael dros ddewis arweinwyr a chyfeiriad y blaid.
Galw am etholiadau un-aelod-un-bleidlais mae Mrs Morgan, tra bod Ms Harris am gadw'r coleg etholiadol presennol.
Mae disgwyl i gynnig ynglŷn ag adolygiad o ddemocratiaeth o fewn blaid gael ei drafod dros y penwythnos.
Bydd Mr Jones yn cyrraedd Llandudno yn dilyn cyfnod o bwysau trwm arno.
Yr wythnos hon fe lwyddodd i drechu ymgais y gwrthbleidiau i fynnu gweld adroddiad cyfrinachol ynglŷn â'r ffordd y cafodd gwybodaeth ei ryddhau ar ad-drefnu'r cabinet ddyddiau'n unig cyn i Mr Sargeant farw.
Mae'n un o dri adroddiad gafodd eu comisiynu gan y prif weinidog yn dilyn marwolaeth y cyn-ysgrifennydd cymunedau.
Fe wnaeth un arall o'r adroddiadau, gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, ddweud nad oedd Mr Jones wedi camarwain y Cynulliad dros honiadau o fwlio o fewn ei lywodraeth.
'Wynebu'r heriau'
Mewn datganiad cyn y gynhadledd, dywedodd: "Er y dylem fod yn falch iawn o'r hyn yr ydym wedi cyflawni gyda'n gilydd - aelodau Cynulliad, cynghorwyr, aelodau Seneddol ac undebau llafur - rhaid i ni hefyd sefyll gyda'n gilydd, yn barod i wynebu'r heriau sydd o'n blaenau.
"Wrth i doriadau'r Torïaid frathu, mae diogelu gwasanaethau'n anoddach. Ac mae'n rhaid i ni sefyll yn unedig, gyda'n gilydd, i wynebu'r heriau."
Ychwanegodd bod ei lywodraeth wedi cadw at addewidion i fuddsoddi a gwarchod cymunedau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018