Harris neu Morgan am ddirprwy arweinydd Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Carolyn Harris a Julie Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Carolyn Harris (chwith) neu Julie Morgan fydd dirprwy arweinydd newydd Llafur Cymru

AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris ac AC Gogledd Caerdydd, Julie Morgan yw'r unig ymgeiswyr ar gyfer swydd dirprwy arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru.

Roedd angen i'r ddwy gasglu 12 o enwebiadau gan ACau, ASau ac ASEau Llafur Cymru i fod ar y papur pleidleisio - gan gynnwys o leiaf tri AC ac AS.

Fe wnaeth yr enwebiadau gau am hanner dydd ddydd Gwener a bydd yr enillydd yn cael ei chyhoeddi yng nghynhadledd y blaid Lafur ym mis Ebrill.

Yn ôl rheolau'r blaid, mae'n rhaid i'r rôl newydd fynd i ddynes os yw arweinydd presennol yn ddyn.

System ethol

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Casnewydd, Debbie Wilcox, gyhoeddi na fydd hi'n sefyll yn y ras ac y byddai'n cefnogi Julie Morgan yn lle hynny.

Bydd yr enillydd yn cael ei dewis drwy goleg etholiadol y blaid, yn hytrach na drwy system un-aelod-un-bleidlais (OMOV).

Ar hyn o bryd mae ffrae o fewn Llafur Cymru ynglŷn â'r rheolau ar gyfer ethol arweinydd a dirprwy arweinydd sydd hefyd wedi hollti cabinet y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Mae rhai eisiau diddymu'r coleg etholiadol a chael etholiad dan system OMOV.

Ond llynedd fe benderfynodd pwyllgor gweithredol Llafur Cymru i gadw'r coleg, er nad yw'n cael ei ddefnyddio bellach yn etholiadau arweinyddol Llafur y DU a'r Alban.

Mae'r rheiny sydd o blaid un-aelod-un-bleidlais eisiau gwyrdroi penderfyniad y pwyllgor gweithredol yng nghynhadledd y blaid.