'Dim camau wedi eu cymryd' i atal dynes rhag lladd ei hun
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi dod i'r casgliad bod menyw 75 oed fu farw yn Ysbyty Llwynhelyg wedi lladd ei hun ac na chafodd mesurau eu cymryd i'w hatal.
Cafodd Susan Evans o Aberdaugleddau ei chanfod yn farw ym mis Tachwedd 2014.
Roedd wedi ei throsglwyddo o ward seiciatryddol i un feddygol ar ôl iddi gymryd gorddos.
Clywodd y cwest nad oedd yna gyfathrebu digonol wedi bod rhwng staff yr ysbyty ynglŷn â'r risg ei fod am geisio lladd ei hun, a'i bod wedi trio gwneud ar achlysuron eraill yn y gorffennol.
Cafodd adroddiad annibynnol ei ysgrifennu ym mis Mawrth 2016 gan yr Athro Bob Peckitt fel rhan o ymchwiliad Heddlu Dyfed Powys i farwolaeth Mrs Evans.
Argymell adolygiad brys
Casgliad y ddogfen honno oedd bod yr Athro Peckitt yn pryderu ynglŷn â diogelwch cleifion, ac roedd yn argymell adolygiad cynhwysol ac annibynnol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda "heb unrhyw oedi".
Wrth siarad ar ôl y cwest dywedodd mab Susan Evans, Bill Evans fod y teulu yn siomedig nad oedd adolygiad o'r fath wedi digwydd, bedair blynedd ar ôl marwolaeth ei fam.
Ond dywedodd ei fod yn falch fod y bwrdd iechyd wedi cynnig cyfarfod gyda'r teulu i drafod cynllun gweithredu.
Mae Dr Warren Lloyd, sydd yn gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, wedi dweud eu bod yn "derbyn canfyddiadau'r crwner ac rydym ni fel bwrdd iechyd wedi gosod newidiadau yn eu lle yn dilyn ymchwiliad mewnol".
Ychwanegodd eu bod yn cydymdeimlo gyda'r teulu ac y byddan nhw'n gweithio gyda nhw ar newidiadau yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2014