Disgyblion yn dychwelyd i ysgol wedi difrod storm

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Ardudwy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd toeau'r ysgol eu difrodi yn ystod storm Emma ddechrau mis Mawrth

Fe fydd disgyblion uwchradd yng Ngwynedd yn dychwelyd i'w hysgol ddydd Llun a hynny saith wythnos ers i'r adeilad gael ei ddifrodi gan dywydd stormus.

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae'r cam cyntaf o drwsio toeau Ysgol Ardudwy Harlech wedi ei gwblhau.

Ers y difrod gafodd ei achosi gan Storm Emma mae'r disgyblion wedi bod yn cael eu haddysg mewn lleoliadau eraill, gan gynnwys hen lyfrgell a chlwb ieuenctid Harlech, a Choleg Meirion Dwyfor yn Nolgellau.

Yn ôl Cyngor Gwynedd bydd rhai gwersi yn parhau i gael eu cynnal yn hen lyfrgell Harlech am y tro, gyda gwasanaeth bws gwennol yn cludo'r plant rhwng y ddau safle.

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn gobeithio y bydd y cyfan o'r gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau erbyn diwedd gwyliau'r haf.

Ond mae'r ysgol wedi rhoi sicrwydd na fydd unrhyw waith trwsio'n digwydd yn ystod arholiadau TGAU.

Yr wythnos diwethaf dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae pawb yn falch bod y trefniadau dros dro a weithredwyd yn llwyddiannus wedi sicrhau bod addysg i'r disgyblion wedi parhau er gwaethaf yr amodau heriol."