Argymell gwrthod fferm wynt ddadleuol Angle, Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae un o arolygwyr cynllunio Llywodraeth Cymru wedi argymell na ddylai fferm wynt ddadleuol yn Sir Benfro gael caniatâd cynllunio.
Daw'r penderfyniad yn dilyn dau ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniad Cyngor Sir Benfro i wrthod caniatad i godi pum tyrbin 100m o daldra ar benrhyn Angle, ger purfa olew Valero.
Fe wnaeth y cwmni tu ôl i'r fenter, Rhoscrowther Windfarm Ltd., wneud cais am y tro cyntaf bedair blynedd yn ôl, ond yn 2015 fe wrthododd Cyngor Sir Benfro rhoi caniatâd iddyn nhw godi'r fferm wynt.
Yn dilyn apêl gan y datblygwyr, cafodd ymchwiliad cyhoeddus i gynnal yn mis Tachwedd 2015, ond fe wrthodwyd yr apêl gan arolygwr ar ran Llywodraeth Cymru ar y sail y byddai'n "niweidio'r olygfa weledol yn ddirfawr".
Mae'r safle yn agos iawn at Barc Cenedlaethol Sir Benfro a'r llwybr arfordirol, a chapel hynafol Y Pysgotwr sydd yn adeilad cofrestredig.
Cafodd ail ymchwiliad cyhoeddus ei gynnal ar ddiwedd Rhagfyr 2017, ar ôl i'r cwmni datblygu ennill apêl yn yr Uchel Lys i gael gwrandawiad eto.
Ddydd Llun, fe gyhoeddodd yr ail arolygwr ei fod hefyd yn gwrthod yr apêl am ei fod yn credu y byddai codi'r tyrbinau yn effeithio'n andwyol ar yr olygfa.
Dywedodd Ms Kay Sheffield, un o'r arolygwyr, fod y difrod a fyddai'n cael ei achosi gan y datblygiad yn lawer mwy na'r buddion posib.
"Er fy mod yn deall y byddai gwaredu tyrbin 4 yn lleihau'r difrod, ni fyddai hyn yn ddigonol wrth ystyried y niwed tebygol."
Mae Cymru Fyw wedi gofyn i gwmni Rhoscrowther Windfarm am sylw.