Bagloriaeth Cymru'n 'rhy gymhleth' ac 'anodd ei deall'
- Cyhoeddwyd
Mae Bagloriaeth Cymru'n rhy gymhleth ac mae nifer o ddisgyblion, athrawon a rhieni yn cael trafferth ei deall, yn ôl adroddiad newydd.
Daeth yr ymchwil i'r casgliad bod ei dyluniad yn "gymhleth" gydag agweddau'n cael eu "gor-hasesu".
Ond mae Cymwysterau Cymru, y corff sy'n rheoleiddio cymwysterau a wnaeth gomisiynu'r ddogfen, yn dweud bod y sgiliau sydd wrth wraidd y fagloriaeth yn berthnasol iawn i'r dyfodol ar gyfer astudiaethau pellach a chyflogaeth.
Er hynny maent yn argymell symleiddio strwythur y cymhwyster a gwella ymwybyddiaeth ohoni.
Wrth groesawu'r adroddiad, dywedodd yr ysgrifennydd addysg mai'r her yw "adeiladu ar y cryfderau, lleihau'r cymhlethdod ac atgyfnerthu statws y cymwysterau yma".
'Problem delwedd'
Cafodd y fagloriaeth ei chyflwyno gyntaf yn 2007, a chafodd fersiwn diwygiedig ei chyflwyno tair blynedd yn ôl pan ddywedodd Llywodraeth Cymru y dylai pob ysgol a choleg ei darparu.
Dywedodd Cymwysterau Cymru y byddai athrawon a myfyrwyr yn croesawu mwy o eglurder ynglŷn ag os oedd yn orfodol ai peidio.
Dywedodd Emyr George o Cymwysterau Cymru bod 'na "broblem delwedd efallai".
"Ond un o'r canfyddiadau ry'n ni wedi dod ar ei draws yn yr ymchwil yma yw bod y cymhwyster yn ei hunan yn reit anodd i'w egluro a'i ddisgrifio, mae hynny'n rhannol am fod ei ddyluniad e'n eitha cymhleth.
"Un o'r argymhellion ar gyfer y dyfodol, ymhen hir a hwyr, yw i ystyried p'un ai bod modd symleiddio fe rhywfaint i hwyluso'i darpariaeth e, ond hefyd ei 'neud yn haws i'w hyrwyddo fe a'i egluro fe i'r rhieni sydd ddim yn gyfarwydd ag e."
Yn ôl undeb addysg UCAC, mae rhai ysgolion a cholegau'n defnyddio'r ffaith nad oes rhaid i bob disgybl astudio Bagloriaeth Cymru fel arf marchnata i ddenu myfyrwyr.
Beth yw Bagloriaeth Cymru?
Mae fersiynau o Fagloriaeth Cymru yn gallu cael eu hastudio gan bobl 14-16 oed neu gan fyfyrwyr chweched dosbarth, ac ers 2015 mae'r cymhwyster yn cael ei raddio.
Mae'r fagloriaeth yn fframwaith sy'n cynnwys nifer o gymwysterau ond y Tystysgrif Her Sgiliau sydd wrth ei gwraidd.
I gyflawni'r dystysgrif mae'n rhaid i fyfyrwyr gwblhau prosiect unigol a thair her arall sy'n profi mentergarwch a sgiliau perthnasol i'r gweithle, gwybodaeth am faterion byd eang a gweithgareddau cymunedol.
'Addasu a symleiddio'
Mae'r ymchwil i Cymwysterau Cymru gan Wavehill Social and Economic Research mewn partneriaeth â Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain yn canfod bod y fagloriaeth yn arwain at "sgiliau hynod berthnasol" ac yn gysylltiedig ag "anghenion astudio a chyflogaeth".
Ond mae ei dyluniad yn "gymhleth" gydag agweddau'n cael eu "gor-hasesu".
Er bod athrawon yn gyffredinol gadarnhaol am y cymhwyster, roedd nifer yn teimlo bod angen ei "addasu a'i symleiddio er mwyn ei wneud yn fwy eglur ac yn fwy hylaw".
Roedd nifer hefyd o'r farn ei fod yn "her" i esbonio'r cynnwys i "ddisgyblion, athrawon eraill a rhieni" gan gynnwys uwch reolwyr mewn ysgolion.
Mae Bagloriaeth Cymru ôl-16 yn gyfwerth â chymhwyster Lefel A ond mae prifysgolion wedi mabwysiadu polisïau gwahanol o ran ei dderbyn ar gyfer mynediad i gyrsiau.
Er nad oedd yr adolygiad yn ymdrin â'r mater hwn yn uniongyrchol, dywedodd Cymwysterau Cymru ei fod am "wella ymwybyddiaeth" ymysg prifysgolion a chyflogwyr.
Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd roedd penderfyniad i gyflwyno'r cymhwyster "fel rhan o dyfiant yr ysgol" pan gafodd ei sefydlu yn 2008 medd y Prifathro, Meurig Jones.
Dywedodd bod y fagloriaeth yn "hanfodol bwysig" gan ei fod yn "rhoi hwb i'n disgyblion ni i allu cyrraedd y prifysgolion maen nhw'n ceisio amdano ond hefyd yn paratoi nhw at y byd gwaith".
Ond mae'n credu bod yna ddiffyg dealltwriaeth, ac mae'n dweud bod newid enw wedi "creu rhyw fath o ansicrwydd ymhlith ysgolion, rhieni a phlant eu hunain".
Ychwanegodd: "Felly dwi'n meddwl mae'n rhaid i ni gael rhywbeth cyson.
"Mae'n rhaid bod 'na gyfeiriad strategol yn dod o'r llywodraeth i ddweud wrth ysgolion a sefydliadau addysg bellach beth yw e, beth sydd angen neud a sut gallwn i symud ymlaen gyda hynny."
'Buddion y cymhwyster'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ei bod yn croesawu'r adroddiad ac yn enwedig y gefnogaeth i'r cymhwyster ymhlith athrawon, cyflogwyr a myfyrwyr.
"Yr her nawr yw adeiladu ar y cryfderau, lleihau'r cymhlethdod ac atgyfnerthu statws y cymwysterau yma ymhlith dysgwyr, athrawon, prifysgolion a chyflogwyr.
"Mae hynny'n golygu gwella'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu ynglŷn â buddion y cymhwyster yma".
Dywedodd bod y fagloriaeth eleni'n rhan o fesuriadau perfformiad ysgolion ar gyfer cyfnod allweddol 4 (14-16 oed) a'i bod yn edrych ar fesurau posib yn ymwneud ag ariannu'r cymhwyster ar lefel ôl-16.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2014