Age Cymru: Trefn gofal yn 'esgeuluso' pobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Guto Henry o Age Cymru bod hawliau dynol sylfaenol yn cael eu hanwybyddu

Mae pobl hŷn yn cael eu hesgeuluso gan fod cynghorau'n dewis cartrefi gofal rhatach, yn ôl elusen.

Mae Age Cymru yn dweud bod teuluoedd yn cael eu gorfodi i dderbyn trefniadau sydd ddim yn addas i anghenion cymhleth, er gwaethaf rheolau newydd.

Dywedodd bod pobl wedi cysylltu gyda llinell ffon gymorth ar ôl cael ceisiadau i dalu ffioedd ychwanegol i sicrhau gofal addas, pan mae cynghorau i fod yn talu'r costau.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cael cais am ymateb.

'Anwybyddu hawliau'

Yn aml mae'n rhaid i bobl sydd a dros £40,000 o gyfalaf, cynilion neu asedau eraill, yn gorfod talu costau llawn gofal preswyl yng Nghymru.

Ond hyd yn oed i'r rhai sy'n gymwys am gymorth awdurdod lleol, nid yw talu ffioedd ychwanegol gan grwpiau eraill, yn aml aelodau eraill o'r teulu, yn erbyn y rheolau.

Mae cynghorau'n gallu gofyn am daliadau ychwanegol os ydy teulu'n dewis cartref gofal sy'n ddrutach - os ydyn nhw eisoes wedi cynnig lle sydd wir yn cyrraedd anghenion unigolyn.

Pryder Age Cymru yw bod cynghorau'n cynnig gofal anaddas, cyn awgrymu y gallai'r teulu gyfrannu tuag at gost gofal addas.

Yn ystod 2017, fe wnaeth llinell ffôn Age Cymru dderbyn 87 o alwadau am dalu am ofal preswyl, a 77 yn benodol am ffioedd ychwanegol.

Roedd dros 1,000 o alwadau ar ofal preswyl yn gyffredinol.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Victoria Lloyd o'r elusen mae "problemau enfawr" ynglŷn â thalu am ofal

Dywedodd prif weithredwr dros dro'r elusen, Victoria Lloyd, nad yw awdurdodau bob tro yn glir am daliadau, sy'n arwain at filiau mawr i rai teuluoedd.

"Rydyn ni'n clywed am bobl sy'n cael trafferth talu - achosion lle mae pobl sydd ar fudd-daliadau yn cael cais i dalu ffioedd ychwanegol dros eu hanwyliaid, sydd ddim yn fforddiadwy..."

Dywedodd bod "problemau enfawr" o amgylch talu am ofal ar hyn o bryd oherwydd pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol a'r ffaith bod pobl yn byw yn hirach.

Ychwanegodd: "Ond nid yw hynny'n golygu anwybyddu hawliau ac urddas unigolion."

Effeithio safon bywyd

Mae'r elusen yn dweud bod teuluoedd yn teimlo bod lleoliadau gofal anaddas yn arwain at ddirywiad yn iechyd pobl hŷn, er newid yn y gyfraith sydd i fod i atal hynny.

Ychwanegodd Ms Lloyd: "Ein pryder yw mewn rhai achosion nad yw gwir ysbryd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn cael ei gyrraedd.

"Oni bai ein bod yn edrych ar hyn yn agosach, rydyn ni'n mynd i fod â mwy o bobl yn y lleoliadau anghywir, byddwn ni'n effeithio urddas mwy o bobl hŷn a'u teuluoedd, ac nid yw hynny'n dda i safon bywyd."

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cael cais i ymateb.