Trefn gofal cartref i waethygu heb newid medd Age Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gofal cartref

Mae elusen Age Cymru wedi dweud bod y drefn o ddarparu gofal cartref yn debygol o waethygu os na fydd newidiadau ar unwaith.

Yn siarad ar y Post Cyntaf dywedodd Meirion Huws o'r elusen bod angen newidiadau "ar frys", ac nad ydy'r model cefn gwlad yn gweithio.

Daw ar ôl i deulu dynes anabl o Ynys Môn ddweud iddynt gael eu siomi'n fawr o gael pum niwrnod yn unig o rybudd fod pecyn gofal ar ei chyfer yn dod i ben.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn ystyried eu hymateb i ymgynghoriad am ofal ar hyn o bryd, a bod arian wedi ei neilltuo i wella cyflogau gofalwyr.

Yn siarad ar BBC Radio Cymru, dywedodd Meirion Huws: "Y gofid sy' ganddon ni ydy os na fydd gwaith yn cael ei wneud ar frys, mai gwaethygu wnaiff pethau.

"Dydy'r model cefn gwlad ddim yn gweithio.

"Mae'r gofyn am gefnogaeth yn codi, mae'r cyllid yn dynn dros ben, ac mae'r gofynion o ran hyfforddiant a safonau yn codi."

'Ddim yn gweithio'

Ychwanegodd: "'Da ni'n clywed am ofalwyr yn teithio milltiroedd lawer i fynd i roi cefnogaeth i bobl fregus yng nghefn gwlad Cymru, a hynny efallai ddwy, dair neu bedair gwaith y dydd.

"Wel dydy hynny ddim yn mynd i weithio.

"Mae gofyn bod ni'n edrych ar sut mae cynnal gwasanaethau yng nghefn gwlad gan ddefnyddio model sydd â'i wreiddiau yng nghefn gwlad."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwenno Rowlands wybod y byddai gofal i'w merch Gwawr, 34 oed, yn eu cartref yn Llanfairpwll yn dod i ben

Dywedodd teulu o Lanfairpwll iddyn nhw gael "sioc" o gael gwybod na fyddai cwmni Abacare yn darparu dwy awr o ofal y dydd i Gwawr Rowlands yn ei chartref.

Mae'r teulu'n dweud iddyn nhw gael ond pum niwrnod o rybudd am y newid.

Fe wnaeth teulu arall o ogledd Cymru hefyd gysylltu â'r Post Cyntaf i ddweud eu bod nhw wedi cael ond 12 awr o rybudd cyn iddyn nhw golli gofalwr ar gyfer dynes oedrannus sydd â dementia.

'Ysytyried ymgynghoriad'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynnal ymgynghoriad ar sut i "wella recriwtio a chadw staff a gwneud gofal yn y cartref yn yrfa deniadol a gwobrwyol yn y tymor hir".

Yn ôl y llefarydd mae'r ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Ychwanegodd y llefarydd: "Rydyn ni hefyd wedi clustnodi £19m i o gyllid parhaus i reoli effaith cyflog byw."