AS: Cymraeg cyn Saesneg ar arwyddion 'yn drysu gyrwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol wedi dweud y dylai Saesneg ymddangos gyntaf ar arwyddion ffyrdd yn Sir Fynwy, a hynny er mwyn peidio drysu gyrwyr.
Dywedodd David Davies ei fod yn "deall" pam y gallan nhw beri trafferthion i yrwyr sydd ddim yn siarad Cymraeg.
Mae arwyddion dros dro wedi cael eu gosod ar hyd un o brif strydoedd Brynbuga wrth i waith uwchraddio pibelli nwy ddigwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy fod yn rhaid gosod y Gymraeg yn gyntaf ar arwyddion er mwyn sicrhau "cysondeb" a chydymffurfio gyda'r safonau iaith.
'Mwy priodol'
Ar hyn o bryd mae traffig yn cael ei ddargyfeirio o'r A472 oherwydd y gwaith, ond mae rhai wedi cwyno nad yw'r arwyddion yn ddigon clir a bod gyrwyr yn parhau yn eu blaenau.
Mae hynny'n golygu eu bod yn gorfod dod i stop a throi 'nôl i'r cyfeiriad y daethon nhw oherwydd y rhwystr.
Mae'r arwyddion dwyieithog sy'n hysbysu gyrwyr o'r trefniadau yn cynnwys rhai sy'n dweud 'Dim ffordd drwodd/No through road', a 'Ffordd ymlaen ar gau/Road ahead closed'.
Ond mae Mr Davies yn credu bod angen eu newid.
"Allai ddeall pam bod rhai pobl wedi cwyno am yr arwyddion yma," meddai AS Ceidwadol Mynwy.
"Mae mwyafrif y bobl sy'n gyrru i Frynbuga yn annhebygol o fod yn siaradwyr Cymraeg, a 'dyn ni'n disgwyl lot ohonyn nhw i allu gweld y wybodaeth mewn Saesneg a throi i'r chwith ar ffordd gyda therfyn cyflymder o 60mya.
"Rydw i'n gefnogol o'r iaith Gymraeg ac yn ei siarad yn weddol rugl ond bydden i wedi meddwl ym Mrynbuga y byddai'n fwy priodol rhoi'r Saesneg gyntaf.
"Fe fyddai'n ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn i'r arwyddion gael eu hailosod. Byddai hefyd yn cysylltu gyda Chomisiynydd y Gymraeg achos os 'dyn ni eisiau i'r Gymraeg gael ei chefnogi gan bob cymuned mae'n rhaid ei thrin yn briodol."
Safonau iaith
Dywedodd Swyddog Iaith Gymraeg Cyngor Sir Fynwy, Alan Burkitt fod yn rhaid i'r arwyddion osod y Gymraeg yn uwch na'r Saesneg er mwyn "cydymffurfio gyda safonau Mesur y Gymraeg".
"Mae'n rhaid ni wneud e, felly mae'r Gymraeg yn dod gyntaf, [gyda] phob arwydd newydd sy'n cael ei roi lan, neu arwydd symudol dros dro," meddai wrth raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru.
Ychwanegodd bod hynny hefyd yn sicrhau "cysondeb" ar draws Cymru pan mae'n dod at arwyddion ffyrdd.
"Mae'n lyfli gweld y Gymraeg gyntaf, achos yng Nghymru y'n ni," meddai.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Ar 31 Mawrth 2016, fe osodwyd safonau'r Gymraeg ar gynghorau sir. Mae rhai o'r safonau hynny'n ymwneud ag arwyddion ffyrdd.
"Cafodd rheoliadau safonau'r Gymraeg ar gyfer cynghorau eu cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru; a bu proses drwyadl o wrando ar farn y sefydliadau a'r cyhoedd ac ymgynghori â nhw ar beth oedd yn rhesymol a chymesur cyn iddynt ddod i rym."