Grŵp wedi'i sefydlu i wella diogelwch ar Driongl Evo

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Sut mae lleihau marwolaethau ar ffyrdd Triongl Evo?

Mae pobl yn Sir Conwy wedi croesawu'r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp i ystyried sut i wella diogelwch ar ffyrdd sy'n cael eu hadnabod fel Triongl Evo.

Bydd tasglu yn cael ei sefydlu mewn ymdrech i atal mwy o wrthdrawiadau, ac mae'r grŵp eisoes wedi argymell sefydlu system camerâu i fesur cyfartaledd cyflymder gyrwyr ar y ffyrdd.

Mae pryder bod pobl mewn ceir pwerus yn dod i rasio ar hyd y ffyrdd o Bentrefoelas am Lyn Brenig, ac yna i Gerrigydrudion cyn mynd yn ôl am Bentrefoelas ar hyd yr A5.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae pedwar o bobl wedi cael eu lladd ar y lonydd yn siroedd Conwy a Dinbych ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac 20 wedi eu hanafu, 10 ohonyn nhw yn ddifrifol.

Mae'r dair lôn rhwng Pentrefoelas, Llyn Brenig a Cherrigydrudion wedi datblygu'n gylchdaith boblogaidd i bobl sy'n hoffi gyrru ceir a beiciau modur cyflym.

Maen nhw'n adnabod y lle fel yr 'Evo Triangle', sydd wedi cael ei enwi ar ôl y cylchgrawn moduro Evo sy'n defnyddio'r ffyrdd i brofi ceir.

Mae gyrwyr o bob cwr o Brydain yn teithio i'r ardal i fynd ar hyd y ffordd, gyda rhai yn rhannu fideos ar y we.

Dros yr haf, cafodd Shawn Goldstaw o Leek, Sir Stafford, ei garcharu am wyth mlynedd ar ôl cyfaddef achosi marwolaeth Tracy Haley a Darren Lowe o Bagillt drwy yrru'n beryglus yno.

Mae'r Aelod Cynulliad, Llŷr Huws Gruffydd wedi galw yn y gorffennol i sefydlu uned arbennig i fonitro'r wê er mwyn atal pobl rhag dod i'r ardal i yrru'n beryglus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm plismona'r ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru'n eisioes yn siarad gyda grwpiau o yrwyr i'w rhybuddio am beryglon Triongl Evo

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Stakes wedi ysgrifennu at ACau yn dweud y bydd tasglu yn cael ei sefydlu mewn ymdrech i atal mwy o wrthdrawiadau.

Mae'r grŵp eisoes wedi gwneud cynnig amlinellol yn argymell sefydlu system camerâu i fesur cyfartaledd cyflymder gyrwyr ar y ffyrdd.

Dywedodd llefarydd: "Rydyn ni'n datblygu'r syniad, ac wedi cynnig arian i alluogi i gynghorau Conwy a Sir Ddinbych i gynnal astudiaeth dichonoldeb arno.

"Byddan nhw yna'n gallu cyflwyno cais llawn ar gyfer yr arian o Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd 2018/19."

'Dim opsiwn hawdd'

Yn croesawu'r datblygiad, dywedodd cynghorydd Llangernyw, Garffild Lloyd Lewis: "Dwi'n falch iawn, rhwng cynghorau Conwy a Sir Ddinbych, ein bod wedi rhoi digon o bwysau i gael pobl i weithredu.

"Mae 'na amrywiaeth o ffyrdd o geisio datrys y broblem, ond does 'na ddim un ohonyn nhw'n hawdd.

"Fe allan ni newid terfyn cyflymder y ffordd, cael camerâu neu newid y ffordd ei hun ychydig."