Arestio dyn 18 oed wedi i gar daro pobl yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae fideo wedi ymddangos sy'n dangos car wedi'i amgylchynu gan dorf o bobl

Mae dyn lleol 18 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf trwy yrru'n beryglus wedi i bedwar o bobl eu taro gan gar yng Nghasnewydd.

Cafodd y pedwar eu cludo i'r ysbyty wedi iddyn nhw gael eu taro gan y car, wnaeth ddim stopio yn dilyn y gwrthdrawiad.

Dywedodd Heddlu Gwent bod dwy ddynes wedi dioddef anafiadau all newid eu bywydau yn y digwyddiad.

Ychwanegon nhw bod car Ford C Max wedi taro tair dynes ac un dyn ar Heol Cambrian am 05:30 fore Sul.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Heol Cambrian ar gau i'r cyhoedd yn dilyn y digwyddiad

Dywedodd y llu nad ydyn nhw'n credu bod y digwyddiad yn ymwneud â therfysgaeth ac nad yw'n gysylltiedig â'r marathon sy'n cael ei gynnal yn y ddinas ddydd Sul.

Cafodd y car ei yrru i gyfeiriad Maendy yn dilyn y gwrthdrawiad, ac fe gafodd ei ganfod wedi'i losgi ar Heol Magwyr yn ddiweddarach.

Mae'r heddlu wedi cau Heol Cambrian i'r cyhoedd tra'u bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Daniel Lee James
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y car ei ganfod wedi'i losgi ar Heol Magwyr yn y ddinas