Galw am ddenu mwy o ddynion i ddysgu disgyblion cynradd
- Cyhoeddwyd
Mae undeb athrawon yn credu bod prinder dynion sy'n dysgu yn y blynyddoedd cynnar yn cyfyngu ar fodelau positif gwrywaidd i blant.
Yn ôl yr NAHT dim ond 3% o'r athrawon sy'n dysgu'r plant ieuengaf yng Nghymru a Lloegr sy'n ddynion.
Yn eu cynhadledd flynyddol yn Lerpwl y penwythnos yma mae disgwyl i undeb y prif athrawon bleidleisio o blaid cynllun i drio annog mwy o ddynion i fynd i'r sector addysg cynradd.
Yn ôl Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru, mae 75% o athrawon cynradd yn fenywod.
Dywedodd fod dysgu wastad wedi cael ei weld fel proffesiwn i ferched ac nad yw'r ffigwr wedi newid rhyw lawer mewn 20 mlynedd.
'Naturiol iawn'
Gobaith undeb yr NAHT wrth ysgogi mwy o ddynion i ddysgu yn y cyfnod sylfaen yw y bydd plant yn cael ystod ehangach o brofiadau gyda dynion a menywod yn eu dysgu.
Mae Tom Cleverly wedi bod yn dysgu ers dwy flynedd yn nosbarth derbyn Ysgol Glan Ceubal yng Nghaerdydd, ac er bod prinder dynion yn dysgu yn y dosbarth derbyn, nid yw hynny yn ei synnu.
"Dwi heb wir feddwl amdano fe, ond oeddwn i wastad yn gwybod nad oes dim llawer o ddynion yna," meddai ar y Post Cyntaf.
"Ond i fi mae fe wedi bod yn naturiol iawn a dwi wedi bod yn hapus iawn yn y cyfnod sylfaen.
"Pan oeddwn ni mewn ysgol arall yn gwneud ymarfer dysgu roedd yn athrawon eraill yn crwydro'r ysgol ar y pryd a dod heibio - ac o ni yn blwyddyn dau ar y pryd - ac oedd nhw dweud 'o dyn yn y cyfnod sylfaen', ro' nhw yn eitha' shocked.
"Gyda rhieni, maen nhw falle yn teimlo bod fi 'chydig bach mwy llym, llais mwy dwfn o bosib.
"Maen nhw'n deall bod fi'n gwneud yr union yr un peth a bod y plant yn mwynhau, a bod fi'n teimlo bod fi'n creu perthynas gyda plant a bod nhw'n mwynhau dod i'r dosbarth."
Sefyllfa'n newid?
Ond mae rhai yn credu bod pethau yn dechrau newid. Lisa Mead ydy prifathrawes Ysgol Glan Ceubal.
"Yn sicr ers fy mod i yn yr ysgol, ysgol fach iawn, dim ond menywod oedd yn dysgu.
"Dwi'n credu bod y trend ar i fyny, ble mae mwy o ddynion yn dod mewn nawr i addysg gynradd.
"Yn sicr fan hyn mae gennyf i ddynion yn dysgu yn y cyfnod sylfaen. Mae gen i dri aelod staff sy'n ddynion a dau gyda phrofiad o ddysgu yn y cyfnod sylfaen."