Pan mae cyfieithu'n mynd o'i le...
- Cyhoeddwyd
Mae yna hwyl i'w gael weithiau pan mae'r ystyr yn mynd ar goll wrth gyfieithu o un iaith i'r llall - rhywbeth rydyn ni'n hen gyfarwydd ag o yn y Gymraeg.
Ond mae'n rhaid cwestiynu weithiau, lle mae'r bobl sy'n prawfddarllen? Yn enwedig pan mae cwmni'n cynhyrchu nwyddau maen nhw eisiau i ni eu prynu.
Fe fyddech chi'n meddwl bod cyfieithu enw'r mis Mai o'r Saesneg yn eitha' rhwydd ond dim yn ôl neges gan gyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes. , dolen allanol

Mae sawl ystyr i'r gair 'may' yn Saesneg ond yn anffodus penderfynodd y cwmni wnaeth y calendr yma ddewis y cyfieithiad ar gyfer yr ystyr oedd a wnelo dim ag enwau misoedd.
'Dyw mis Mawrth ddim yn fater syml chwaith, mae'n debyg:

Dyma ymgais arall ar fis Mai ar feddalwedd cofrestru ar gyfer wi-fi a rannodd Angharad Thomas ar Twitter, dolen allanol:

Daeth Beth Angell o hyd i gerdyn go arbennig mewn archfarchnad, dolen allanol oedd yn dymuno pen-blwydd hapus i daid ar y tu allan - ond roedd stori wahanol ar y tu mewn:
Dychmygwch dderbyn hwn...
Cerdyn ar gyfer achlysur niche iawn neu gomedi anfwriadol?
Ond cyn i ni ddechrau chwerthin gormod am gamgymeriadau yn y Gymraeg, mae'n gweithio'r ffordd arall hefyd, gyda'r Gymraeg yn gallu bod yn ddylanwad diarwybod ar ein Saesneg ni.
Dyma sut cyfieithodd Heledd ap Gwynfor y geiriau 'Het cranc' pan oedd hi'n gweithio mewn siop yn Nhresaith. Fedrwn ni ddim gweld dim byd o'i le, fedrwch chi?

Oes gennych chi enghreifftiau eraill o fethiant ystyr difrifol ond digri? Anfonwch nhw aton ni: cymrufyw@bbc.co.uk