Cyngor i werthu safle hen ysgol ar golled o £133,000
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu gwerthu darn o dir am £133,000 yn llai na'i bris ar y farchnad.
Y bwriad yw i drosglwyddo safle hen Ysgol Aberdyfi - sy'n wag ers cau yn 2013 - i'r gymdeithas dai Cartrefi Cymunedol Gwynedd am o gwmpas £187,000.
£320,000 yw gwerth amcangyfrif y safle ond mae adroddiad i gabinet y cyngor yn argymell ei werthu am bris lawer llai er mwyn codi 11 o dai cymdeithasol.
Dywed y cynghorydd lleol, Dewi Owen, ei fod yn cefnogi'r syniad "100%" gan fod angen cartrefi fforddiadwy yn y pentref.
Ychwanegodd bod y safle'n "un delfrydol iawn" ac y byddai economi'r pentref ar ei hennill.
38 ar restr aros
"Gan y byddent i gyd yn dai fforddiadwy, medraf ddeall na fydd y safle yn cael ei brynu am bris y farchnad," meddai Mr Owen.
"Y peth pwysicaf i ardal Aberdyfi yw fod ychwaneg o dai yn cael eu hadeiladu yma, yn enwedig gan fod 38 ar y rhestr aros.
"Bydd y pentref, siopau, a'r gymdeithas yn elwa trwy ychwaneg o dai fforddiadwy, gan fod tai sydd at werth yn y pentref allan o gyrraedd pris mwyafrif o bobl leol.
"Fel pentref rydym yn hynod falch fod rhywbeth da yn mynd i ddod o'r safle, a bydd adeiladwyr lleol yn cael eu cyflogi i wneud y gwaith."
Yn ôl adroddiad a fydd yn mynd o flaen cabinet y cyngor mewn cyfarfod arbennig ar 8 Mai, roedd 'na drafodaethau gyda'r cyngor cymuned ynghylch trawsnewid yr hen ysgol yn ganolfan ddydd ar gyfer yr henoed.
Ond roedd yn amhosib symud ymlaen gyda'r cynllun yna wedi methiant cais am arian loteri i adnewyddu'r adeilad.
Lleoliad 'heriol'
Mae'r adroddiad yn dweud bod hi'n 11 mlynedd ers y tro diwethaf y bu unrhyw dai cymdeithasol newydd yn Aberdyfi, ac mae angen dybryd am dai fforddiadwy yn yr ardal.
Gyda phris canolrifol eiddo yn £209k yn yr ardal, dywed yr adroddiad "y byddai angen 7.2 gwaith yr incwm arferol i fforddio prynu tŷ".
"Mae rhai lleoliadau o fewn Gwynedd yn rhai heriol iawn o safbwynt gallu darparu tai fforddiadwy ac mae Aberdyfi yn un o'r rhain", medd yr adroddiad.
"Drwy weithio mewn partneriaeth gyda CCG gallwn achub ar gyfle prin i ddarparu tai fforddiadwy yn y lleoliad yma."
Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, dim ond 38.5% o drigolion Aberdyfi oedd yn ystyried eu hunain yn Gymry, ac roedd nifer gymharol fawr o gartrefi yn y pentref yn dai haf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018