'Ergyd enfawr' wrth i Virgin Media ddiswyddo bron i 800

  • Cyhoeddwyd
virgin media yn abertaweFfynhonnell y llun, Google

Mae cwmni Virgin Media yn bwriadu diswyddo 772 o'u staff yng Nghymru wrth iddyn nhw gau eu canolfan alwadau yn Llansamlet, Abertawe.

Fe ddaw'r penderfyniad wrth i'r cwmni telegyfathrebu ganoli eu canolfannau galw ym Manceinion.

Bydd 772 yn cael eu diswyddo yn Llansamlet. Mae 552 o'r swyddi yn rhai parhaol, gyda'r gweddill yn swyddi is-gontractwyr.

Wrth ymateb dywedodd AS Gorllewin Abertawe Geraint Davies bod hyn yn "ergyd enfawr i Abertawe".

'Sioc llwyr'

Yn 2013 roedd Virgin Media yn cyflogi tua 900 o weithwyr yn Abertawe, a bu ehangu pellach wrth i'r cwmni ehangu eu gwasanaethau teledu a band llydan.

Mae gan Virgin Media 22 miliwn o gwsmeriaid mewn 12 gwlad yn Ewrop.

Mewn datganiad dywedodd Prif Weithredwr Virgin Media, Tom Mockridge eu bod wrthi'n gweithredu cynllun i "greu llai o leoliadau gwaith, ond o safon uwch" er mwyn cynnal eu busnes a'u cwsmeriaid.

Mae disgwyl i'r safle ger Abertawe gau erbyn hydref 2019, gyda'r "rhan fwyaf" o swyddi yn cael eu symud i safleoedd eraill yn y DU.

"Rydyn ni nawr yn gweithio gyda'n gweithwyr ac yn cefnogi'r rheiny sydd wedi cael cais i adleoli, allai wynebu risg o golli eu swyddi, neu sy'n dymuno cymryd rôl newydd gyda Virgin Media neu un o'n partneriaid," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod y newyddion yn "siomedig iawn", ac y byddai Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r cwmni a Chyngor Abertawe i ganfod datrysiad.

"Bydd ein hymdrechion nawr yn troi tuag at gefnogi'r gweithlu arbennig ar y safle, sydd nawr yn wynebu cyfnod o ansicrwydd ynglŷn â'u dyfodol," meddai.

Dywedodd AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris ei bod yn siomedig iawn o glywed y newyddion, a'u bod yn swyddi nad oedd yr ardal "yn gallu fforddio'u colli".

"Rydyn ni wedi bod yn ffrind da i Virgin ac maen nhw wedi bod yn gymdogion da felly mae'n sioc llwyr eu bod nhw'n mynd ag e i gyd i Fanceinion. Dwi jyst ddim yn deall pam maen nhw'n mynd ag e i ffwrdd o Gymru," meddai.

Dywedodd AC Ceidwadol Gorllewin De Cymru, Suzy Davies ei fod yn "ergyd drom i'r ardal" ac nad oedd hi'n ymarferol disgwyl i'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn gallu symud i leoliadau eraill.

"Mae enw da Abertawe yn entrepreneuraidd wedi bod yn tyfu'n sylweddol, ac mae'n bechod nad oedd Virgin wedi ceisio manteisio ar hynny yn hytrach na gadael."