Camgymeriad ar bapur prawf disgyblion ysgol gynradd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth ysgolion cynradd bod camgymeriad ar un o'r papurau prawf sy'n cael eu cymryd gan filoedd o ddisgyblion ar hyn o bryd.
Digwyddodd y camgymeriad ar bapurau Darllen Saesneg ar gyfer Blwyddyn 2 a 3.
Mae'r profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn cael eu sefyll gan bob disgybl saith i 14 oed, er mwyn cymharu eu perfformiad ag eraill o'r un oed.
Y gred yw bod y broblem yn ymwneud â chwestiwn ble roedd disgyblion yn cael eu cyfeirio at y dudalen anghywir i ddarllen darn o destun.
'Pwysau ychwanegol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi sicrhau bod pob ysgol wedi cael gwybod am y camgymeriad yn y papur Darllen Saesneg i Flwyddyn 2/3.
"Mae ysgolion wedi cael cyngor ar beth ddylen nhw ei wneud er mwyn sicrhau eu bod nhw a'u disgyblion yn gallu elwa o'r wybodaeth ddiagnostig sy'n cael ei darparu yn y prawf.
"Bwriad y profion hyn yw deall cynnydd dysgwyr, a dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud dyfarniad ar ysgolion yn seiliedig ar eu canlyniadau prawf."
Ychwanegodd llefarydd ar ran undeb NUT Cymru eu bod yn gobeithio na fyddai'r "pwysau ychwanegol ar athrawon a disgyblion" o ganlyniad i'r camgymeriad yn cael "effaith niweidiol".
"Gobeithio y gall Llywodraeth Cymru sicrhau nad oes yr un disgybl yn cael eu llesteirio o ganlyniad i'r camgymeriad a bod arfarniad i weld sut ddigwyddodd hyn."