UKIP Cymru am gael 'stamp Cymreig' yn ôl Neil Hamilton AC

  • Cyhoeddwyd
Arweinydd UKIP Cymru, Neil HamiltonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae hi'n debygol y bydd UKIP Cymru yn pellhau oddi wrth y blaid yn Lloegr, yn ôl yr arweinydd Neil Hamilton.

Dywedodd AC Canolbarth a Gorllewin Cymru ei fod yn bwriadu rhoi "stamp Cymreig" ar y blaid, er mwyn dangos eu bod nhw "yn fwy nac Ewrop yn unig".

Er ei fod yn rhybuddio yn erbyn colli'r "brand" sydd eisoes wedi ei sefydlu gan y blaid, dywedodd fod modd ychwanegu ato gydag "elfen wahanol".

Yn ôl Mr Hamilton, mae'r blaid yn edrych ar "sawl posibilrwydd".

'Cryfhau'r elfen Gymreig'

Mewn cyfweliad â rhaglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, soniodd Mr Hamilton am ei awydd i weld Cymru yn dod yn "hafan dreth" sydd â "rheolaeth gymesur ar fusnes" er mwyn cryfhau'r economi.

Er bod y blaid wedi bod yn erbyn y broses ddatganoli, dywedodd Mr Hamilton fod rhaid iddyn nhw "geisio gwneud iddi weithio".

Roedd perfformiad y blaid yn yr etholiadau cyngor diweddar yn siomedig, gan ennill tair sedd a cholli dros 100 ar hyd Lloegr.

Wrth ymateb i gwestiwn ar bellter UKIP Cymru o'r blaid yn ganolog, dywedodd Mr Hamilton fod datganoli yn sicr o greu mwy o annibyniaeth i'r blaid yng Nghymru".

Doedd arweinydd UKIP Cymru ddim yn credu y byddai hyn yn arwain at newid enw, oherwydd y perygl o gael gwared â'r brand adnabyddus.

Er hyn roedd Mr Hamilton yn benderfynol o gryfhau "natur Gymreig UKIP Cymru".