Gwrthdrawiad A485: Bachgen 11 oed wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau fod bachgen 11 oed wedi marw wedi gwrthdrawiad fore Gwener ar ffordd yr A485 rhwng Olmarch a Thregaron.

Dywedodd plismyn mai Tristan Silver oedd enw'r bachgen a'i fod yn dod o ardal Tregaron.

Roedd e'n ddisgybl yn Ysgol y Dderi, Llangybi.

Ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys bod eu meddyliau gyda theulu Tristan a bod y teulu yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Wedi'r gwrthdrawiad cafodd dynes 28 oed a phlentyn arall eu cludo i'r ysbyty - doedd eu hanafiadau nhw ddim yn rhai difrifol.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Subaru Legacy a Mitsubishi Shogun, oedd yn cludo anifeiliaid mewn trelar oodeutu 08:50 fore Gwener.

Roedd y Subaru glas yn teithio i gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan tra bod y Mitsubishi du ar ei ffordd i gyfeiriad Tregaron.

Fe gafodd gyrrwr a'r teithiwr yn y Mitsubushi fân anafiadau.

Yn y cyfamser mae'r heddlu yn apelio am fwy o wybodaeth ac yn annog unrhyw dystion i ffonio uned blismona'r ffyrdd ar 101.