Dim anifeiliaid anwes ar Faes Carafanau Prifwyl Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Pontcanna
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor Caerdydd sy'n berchen ar Gaeau Pontcanna yng Nghaerdydd

Mae perchnogion anifeiliaid anwes wedi derbyn e-bost gan drefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn egluro na chawn nhw ddod â'u hanifeiliaid gyda nhw i faes carafanau'r Brifwyl yng Nghaerdydd eleni.

Cyngor Caerdydd sy'n berchen ar Gaeau Pontcanna, ac mae swyddogion yn pryderu gallai'r anifeiliaid anwes gynhyrfu ceffylau yn y Ganolfan Farchogaeth ym mhen uchaf y parciau.

Bydd ambell Eisteddfodwr sydd wedi arfer dod â'u hanifeiliaid anwes gyda nhw i'r ŵyl felly yn gorfod gwneud trefniadau gwahanol ar eu cyfer.

Dywedodd Ffion Page, sydd wedi arfer mynd a chi'r teulu gyda hi i'r Eisteddfod fod y newyddion wedi "torri ei chalon".

'Canslo'r garafán?'

"Roeddwn yn fflat iawn ar ôl clywed nad oes hawl ganddo ni fynd a Ben y ci gyda ni. Dros y blynydde diwethaf mae Ben wedi bod yn dod da ni i aros ar y Maes Carafanau ac i'r Brifwyl.

"Roedd clywed hyn yn torri fy nghalon am ei fod yn aelod o'r teulu ac mae rhaid i ni ail drefnu pethe.

"Fydd rhaid i ni ganslo'r garafán? Os hynny dwi'n gobeithio mai nhw (Cyngor Caerdydd) fydd ar eu colled ac nid yr Eisteddfod," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:

"Yn unol â'r drefn mewn digwyddiadau eraill o'r fath, ni fydd anifeiliaid anwes yn cael eu caniatáu oherwydd maint y maes carafanau a'i fod mor agos i ysgol farchogaeth Caerdydd."

Mae'r Eisteddfod wedi cadarnhau nad yw'r gwaharddiad yma yn cynnwys cŵn tywys.