Galw am ganolfan £50m i ddathlu hanes diwydiannol Merthyr

  • Cyhoeddwyd
Gwaith Haearn Cyfarthfa
Disgrifiad o’r llun,

Ar ddechrau'r 19eg ganrif, Gwaith Haearn Cyfarthfa oedd y mwyaf yn y byd

Mae angen gwario hyd at £50m i greu canolfan o bwys ym Merthyr Tudful fyddai'n dathlu hanes diwydiannol yr ardal, yn ôl adroddiad.

Ar ddechrau'r 19eg ganrif, Gwaith Haearn Cyfarthfa oedd y mwyaf yn y byd.

Mae'r ymchwil gan Gomisiwn Cynllunio Cymru yn dweud dylai Castell Cyfarthfa - y parc a'r ardal o'i amgylch - gael ei ddatblygu'n ganolfan dreftadaeth o bwys rhyngwladol.

Y bwriad yw ceisio codi £50m gan amryw o sefydliadau a chyrff cyhoeddus.

Ond mae prif swyddog Menter Iaith Merthyr yn dweud bod yn rhaid i'r Gymraeg fod wrth wraidd y cynllun ar ddechrau'r broses.

'Ffordd deilwng'

Yn ôl un o awduron yr adroddiad, Geraint Talfan Davies, mae am weld ardal Cyfartha a Merthyr yn cael eu "cyflwyno i'r byd ar sail prosiect cenedlaethol o safon ryngwladol".

"Mae tref Merthyr wedi cyfrannu at hanes Cymru mewn ffordd unigryw a dwi ddim yn credu ein bod ni'n cyflwyno'r hanes yna i'r byd mewn ffordd deilwng," meddai.

Disgrifiad,

Dywedodd Geraint Talfan Davies bod asedau hanesyddol Merthyr Tudful yn "ddi-ben-draw"

Eisoes mae rhyw 60 o arbenigwyr - penseiri, penseiri tirlun, artistiaid a grwpiau cymunedol - wedi dod at ei gilydd i hel syniadau.

Mae Comisiwn Cynllunio Cymru yn awgrymu y gallai Merthyr Tudful ddysgu o lwyddiant cynllun Titanic yn Belfast a chynllun Eden yng Nghernyw yn y modd maen nhw'n denu ymwelwyr.

Mae tua 60,000 o bobl yn ymweld â Chastell Cyfarthfa pob blwyddyn ond mae'r adroddiad yn awgrymu y byddai canolfan newydd, mwy uchelgeisiol, yn gallu denu tair i bum gwaith y nifer yna.

Budd i'r Gymraeg?

Dywedodd Mr Davies: "'Da chi'n mynd i ddenu arian at y prosiect yma dim ond os fynnwn y safonau uchaf posib, felly ma' hwn yn dipyn mwy na phrosiect lleol - mae'n rhaid i hwn fod yn brosiect cenedlaethol.

"Os llwyddwn ni, mi fyddai'n newid agwedd y byd at Ferthyr ac yn fwy pwysig fyth felly byddai'n newid agwedd pobl Merthyr at y dref ei hun."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn awgrymu Castell Cyfarthfa fel lleoliad i gael ei ddatblygu'n ganolfan dreftadaeth o bwys rhyngwladol

Mae Lis McLean, prif swyddog Menter Iaith Merthyr Tudful yn dweud byddai'r Gymraeg yn cael budd o'r cynllun - ond bod yn rhaid iddi fod yn rhan annatod o'r prosiect.

"Bydd y Gymraeg yn elwa... os ydy'r cynllun yn cael ei weithredu mewn ffordd sydd yn cymryd y Gymraeg wrth ei gwraidd, yn hytrach nag ychwanegu fe ar y diwedd, fel beth sydd yn digwydd yn aml iawn gyda chynlluniau eraill," meddai.

"Mae'n rhaid i bobl yng Nghymru feddwl am sut mae'r Gymraeg yn gallu bod yn rhan o adfywio cymunedau a hefyd fod yn rhan o gynlluniau datblygu cymunedol.

"Mae hwn yn mynd i fod yn gyfle gwych i Ferthyr ac mae angen i ni wneud y gorau mas ohono fe.

"Dyma yw ein cyfle i gael llwyfan, nid yn unig yn rhanbarthol ond hefyd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Felly mae angen i ni wneud hwn yn iawn."

Cynlluniau aflwyddiannus

Nid dyma'r tro cyntaf i gynlluniau treftadaeth gael eu cynnig ar gyfer Merthyr.

Yn 1995 roedd cynlluniau ar y gweill ar gyfer llwybr treftadaeth, ac yn 2010 roedd ymgyrch aflwyddiannus i ennill statws safle treftadaeth y byd yn nodi cysylltiad y dref â'r diwydiant haearn.

Eisoes mae nifer o lwybrau cerdded o amgylch safleoedd treftadaeth ddiwydiannol yr ardal, ond mae'r cynllun yma'n mynd ymhellach.