Nifer troseddwyr lluniau anweddus 'yn dyblu mewn 12 mis'

  • Cyhoeddwyd
dyn ar gyfrifiadurFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae nifer y bobl sy'n cael eu dal yn lawrlwytho lluniau anweddus o blant wedi dyblu mewn blwyddyn, yn ôl un o brif swyddogion heddlu Cymru.

Daw hynny wrth i'r corff sy'n cynrychioli swyddogion prawf ddweud wrth BBC Wales Live fod diffyg ffyrdd effeithiol o adfer y troseddwyr hynny, a bod hynny'n peri risg i bobl ifanc.

Dros yr 18 mis diwethaf mae'r pedwar llu heddlu yng Nghymru wedi bod yn gweithredu'n llymach yn erbyn y rheiny sy'n lawrlwytho a rhannu delweddau o'r fath, dan Ymgyrch NetSafe.

"Rydyn ni wedi gweld dwywaith gymaint o arestiadau ac erlyniadau â'r flwyddyn gynt mae'n siŵr," meddai dirprwy prif gwnstabl Heddlu De Cymru, Jonathan Drake.

"Dwi'n gweld y nifer yna'n cynyddu o leiaf yn y tymor byr, ond fy mhrif neges yw bod atal yn well na gwella."

Taclo'r achosion

Fel rhan o'r ymgyrch mae'r heddlu wedi bod yn gweithio ag elusen diogelwch plant, Sefydliad Lucy Faithfull, sydd yn ôl Mr Drake yn helpu troseddwyr a throseddwyr posib i ddeall a dygymod â'u hymddygiad.

"Dwi'n meddwl bod hyn yn rhoi'r cyfle gorau posib o leihau'r math yna o droseddu," meddai.

Mae pryderon fodd bynnag fod y rheiny sydd wedi'u herlyn am edrych ar luniau anweddus yn cael eu methu wedi i Adran Gyfiawnder Llywodraeth y DU ddileu cyrsiau ar gyfer troseddwyr y llynedd.

Fe wnaeth adroddiad ganfod bod risg uwch y byddai'r unigolion hynny'n aildroseddu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Dirprwy Prif Gwnstabl Jonathan Drake fod nifer y troseddwyr o'r math yma wedi dyblu

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gyfiawnder y dylai rhaglenni triniaethau ar gyfer troseddwyr rhyw "fod yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf a thystiolaeth o beth sy'n gweithio".

"Dyna pam 'dyn ni'n cyflwyno rhaglen adferiad newydd yr wythnos hon yn benodol ar gyfer y rheiny sydd wedi cyflawni troseddau rhyw ar-lein," meddai.

"Bydd hyn yn cymryd lle'r rhaglen bresennol a helpu'r rheiny sy'n rhan ohono i ddatblygu sgiliau gwell a rheoli'r risg eu bod yn aildroseddu."

Yn ôl Tania Bassett o Gymdeithas Genedlaethol Swyddogion Prawf, mae hynny wedi gadael "bwlch" o ran camau penodol posib ar gyfer unigolion sy'n lawrlwytho delweddau.

"Rydyn ni nawr yn gorfod defnyddio rhaglen troseddu rhyw fwy cyffredinol sydd ddim wir yn taclo'r pethau sy'n achosi troseddu ar y we," meddai.

"Os nad ydyn ni'n taclo'r achosion sydd wrth wraidd troseddu rhyw fe fydd pobl yn mynd ati i aildroseddu."

'Rheoli troseddwyr'

Mae BBC Wales Live wedi siarad ag un dyn sydd wedi cael ei garcharu tair gwaith am lawrlwytho a rhannu miloedd o luniau anweddus o blant.

"Mae materion o gam-drin gen i ers yn blentyn," meddai.

"Ar ôl i'r we ddod yn fwy amlwg, fe wnaeth y rheiny ddod i'r amlwg mewn pornograffi traddodiadol ac yna symud yn bellach a phellach tuag at luniau cam-drin plant."

Dywedodd ei fod yn gwybod fod plant wedi eu cam-drin, ond ei fod wedi llwyddo i "orchfygu'r meddyliau hynny".

Mae'n feirniadol o'r cyrsiau, sydd bellach wedi eu dileu, a gafodd yn y carchar ac mae bellach yn talu am gymorth gan elusen StopSO o Gil-y-Coed yn Sir Fynwy.

Ffynhonnell y llun, PA

"Dwi ddim yma i ddweud fod angen bod yn neis i bobl sy'n cyflawni troseddau rhyw, nid dyna fy agenda," meddai.

"Maen nhw'n droseddau afiach sy'n gwneud niwed mawr i'r dioddefwyr. Ond os ydych chi'n rheoli'r troseddwr yna'n effeithiol, fe gewch chi lai o'r dioddefwyr yna."

Dywedodd Juliette Grayson, un o sylfaenwyr StopSO, nad oes digon o sylw'n cael ei roi i adfer troseddwyr rhyw.

"Am nad yw pobl yn gallu dweud, 'mam, mae gen i atyniad rhywiol od tuag at blant, allwch chi gael help i mi', 'dyn nhw ddim yn cael yr help," meddai.

"Dwi'n dweud wrth bobl weithiau sut fyddech chi'n teimlo petai eich mab chi'n dod atoch yn gofyn am help? Wrth gwrs y byddech chi am iddyn nhw gael cymorth triniaethol fel eu bod nhw'n gallu stopio - neu beidio dechrau yn y lle cyntaf."