Lefelau nyrsio ar rai wardiau yn 'beryglus o isel'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn cydnabod fod lefelau staffio ar rai wardiau yn ysbytai Cymru yn gallu bod yn beryglus o isel.
Dyna'r rhybudd wrth i ymchwil Newyddion 9 dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth ddangos bod dros 1,600 o swyddi nyrsio gwag ym mis Mawrth eleni ar draws y wlad.
Mae'r nifer uchaf o swyddi gwag ym mwrdd iechyd mwyaf Cymru, Betsi Cadwaladr, ond mae'r ffigwr ar draws Cymru wedi cynyddu ers y llynedd.
Tra bod ymdrechion i recriwtio rhagor o nyrsys, pwysau gwaith a Brexit yw dau o'r rhesymau pam fod hynny'n profi'n gynyddol anodd medd y coleg nyrsio.
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "mae nifer y nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd cymwysedig ar ei lefel uchaf" ac mae 68% o gynnydd wedi bod yn nifer y llefydd i hyfforddi nyrsys yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
400 o swyddi nyrsio gwag oedd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Mawrth eleni, tra bod Abertawe Bro Morgannwg yn ail gyda 371 o lefydd gwag.
Dau fwrdd iechyd oedd â llai na 100 o swyddi gwag, sef Cwm Taf a Phowys.
Mae'r cyfanswm yn dangos bod 1606 o swyddi nyrsio gwag ar draws Cymru ym mis Mawrth. 1586 oedd y ffigwr yn 2017.
Ymatebion cais rhyddid gwybodaeth
Swyddi Gwag- Mawrth 2018
Betsi Cadwaladr - Tua 400
Cwm Taf - 72.79
Hywel Dda - 192.87
Aneurin Bevan - 274.90
Abertawe Bro Morgannwg - 370.96
Powys - 83.5
Caerdydd a'r Fro - 211.13
Cyfanswm= 1606.15
2017
Betsi Cadwaladr - Tua 450
Cwm Taf - 75.08
Hywel Dda - 191.33
Aneurin Bevan - 249.38
Abertawe Bro Morgannwg - 309.47
Powys - 87.4
Caerdydd a'r Fro - 224.26
Cyfanswm = 1586.92
Roedd Mair Dowell yn nyrsio am 50 mlynedd cyn iddi roi'r gorau iddi'r llynedd. Mae'n dweud bod newidiadau mawr wedi bod ers iddi ddechrau ac nid er gwell.
"Dw i'n cofio yn nyddiau cynnar Glan Clwyd oedd dim un claf yn cael bod yn yr A+E am fwy nag awr," meddai.
"Oedd rhaid iddyn nhw gael eu gweld a byddan nhw wedi mynd adre neu byddan nhw wedi mynd i'r ward.
"Wrth gwrs does 'na ddim gwlâu yn nunlle rŵan felly dyna be ydy andros o broblem, bod 'na ddim gwlâu i'r A+E symud y cleifion iddyn nhw."
Dywedodd mai effaith hynny yw bod y staff dan bwysau a ddim yn gallu gwneud eu gwaith fel y dylen nhw.
"O'n i yn mynd i fy ngwaith a wir yn mwynhau. Ac o'ch chi'n mynd adre yn gwybod bo' chi wedi gwneud swydd dda, bo' chi wedi edrych ar ôl pobl fel 'da chi isio cael eich edrych ar eich hôl.
"Fedrwch chi ddim gwneud hynny rŵan achos does dim digon o staff a dim digon o le."
Straen tywydd oer
Mae Sandra Robinson Clark o'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn cydnabod bod lefelau staffio ar rai wardiau yng Nghymru yn beryglus o isel.
"Rydan ni wedi cael gaeaf caled ofnadwy o ran nifer y cleifion sy'n dod mewn i'r ysbytai," meddai.
"Ac wrth gwrs, mae hynny wedyn yn rhoi straen ar y nyrsys sy'n trio'u gorau glas i roi'r gofal i gleifion.
"Â phob parch, fedrwch chi ddim gwneud pob dim yn iawn i bawb os ydy lefelau staffio ddim yn iawn."
Dywedodd bod canlyniad y refferendwm ynglŷn ag Ewrop hefyd wedi gadael ei ôl.
"Wrth gwrs, heblaw am gynyddu'r nifer sy'n dod i astudio nyrsio yn y prifysgolion, 'da ni wedi bod yn ddibynnol ar recriwtio nyrsys o Ewrop ar hyd Cymru," meddai.
"Mae Brexit wedi rhoi diwedd ar hynny, sydd yn bechod achos da ni wedi cael nyrsys da iawn - o Sbaen er enghraifft - yn dod yma i weithio."
'Llwyddo i ddenu staff'
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "nifer y nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd cymwysedig ar ei lefel uchaf, sef 22,612".
"Mae nifer y llefydd sydd ar gael i hyfforddi nyrsys wedi cynyddu 68% dros y pedair blynedd diwethaf ac rydyn ni wedi cyflwyno'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio i roi dyletswydd ar fyrddau iechyd i sicrhau bod nifer penodol o nyrsys ar wardiau," meddai llefarydd.
Ychwanegodd bod eu hymgyrch recriwtio ryngwladol hefyd wedi bod yn llwyddiant a bod y camau yma i gyd yn "dangos ein hymrwymiad llwyr i wneud yn siŵr bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn parhau i ddenu a chadw gweithlu o'r safon uchaf".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2017