£12m er mwyn hyfforddi mwy o nyrsys yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
nyrs

Bydd mwy o lefydd hyfforddi nyrsys ar gael yng Nghymru yn 2018 yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

Daeth cyhoeddiad y bydd yr arian ar gyfer pecyn hyfforddi yn cynyddu o £12m ers y llynedd, fydd yn golygu 10% yn fwy o gyfleoedd hyfforddi.

Yn ymarferol mae hynny'n golygu 161 yn fwy o nyrsus dan hyfforddiant, gyda'r cyfanswm yn codi i 1,911.

Mae'r pecyn buddsoddi - sy'n £107m i gyd - hefyd yn arwain at:

  • Cynnydd o 10% mewn llefydd hyfforddi ffisiotherpi a therapi galwedigaethol;

  • Llefydd hyfforddi ychwanegol ar gyfer ymwelwyr iechyd;

  • Cadw'r lefel hyfforddiant a gomisiynwyd yn 2017 gan gynnwys y cynnydd o 40% i fydwragedd dan hyfforddiant.

Yn ychwanegol i hyn, ac yn ganlyniad i'r cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru, bydd £2m y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi i gefnogi cynllun peilot o ofal nyrsio yn y gymuned - cynllun Buurtzorg Cymru - gyda £1.4m o hynny cael ei wario ar addysgu a hyfforddi nyrsys ardal.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Mae polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gyni cyllidol wedi cael effaith fawr ar ein cyllideb.

"Mewn amgylchiadau o'r fath, hyfforddiant sy'n aml yn dioddef gyntaf. Ond mae'r dull hwn yn dangos diffyg gweledigaeth.

"Rydyn ninnau yn cynyddu'r buddsoddiad mewn hyfforddiant, er gwaetha'r toriadau i'r gyllideb, er mwyn diogelu dyfodol hirdymor y gwasanaeth iechyd.

"Gyda'n hymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw i ddod â meddygon dan hyfforddiant a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i Gymru, mae hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y gweithlu sydd arno ei angen i ddarparu gofal o ansawdd uchel, heddiw ac yfory."