Adroddiad yn argymell cryfhau system cosbi absenoldeb

  • Cyhoeddwyd
AbsenoldebFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen cryfhau'r system o gosbi rhieni am absenoldeb eu plant o'r ysgol, medd adolygiad.

Mae'r adroddiad yn dangos fod cynnydd bychan yn yr achosion o blant yn cael eu tynnu o'r ysgol i fynd ar wyliau ers cyflwyno hysbysiadau cosbau penodedig yn 2013.

Mae mam o Gaerdydd wedi dweud bod y system yn anghyson, ac nad yw ysgolion o fewn un awdurdod yn gweithredu'r un fath.

Cafodd Gwerthusiad o Hysbysiadau Cosb Benodedig a roddwyd am golli'r ysgol yn rheolaidd, dolen allanol ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, sy'n dweud eu bod am ystyried y casgliadau.

1,500 cosb yng Nghaerdydd

Mae'r cosbau'n gallu cael eu rhoi am driwantiaeth, absenoldeb heb awdurdod, mynd ar wyliau heb awdurdod, neu bod yn hwyr yn gyson.

Yng Nghaerdydd y cafodd y nifer uchaf o gosbau eu rhoi yn 2015/16, sef 1,531.

Roedd Rhondda Cynon Taf wedi cyflwyno 1,063 o gosbau, 90% o'r rheiny am dynnu plant o'r ysgol i fynd ar wyliau.

Ar y pegwn arall, chafodd yr un gosb ei chyflwyno yn Nhorfaen, Sir Fynwy na Sir Gaerfyrddin.

Tra bod 90% o gosbau penodedig Rhondda Cynon Taf yn 2015/16 wedi eu rhoi am gymryd gwyliau, chafodd dim un ei rhoi am yr un rheswm ym Mro Morgannwg, Caerffili na Cheredigion.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd 90% o ddirwyon Rhondda Cynon Taf yn ymwneud â thynnu plant o'r ysgol i fynd ar wyliau

Athrawon a staff awdurdodau lleol a chonsortiymau addysg lleol gafodd eu holi fel rhan o'r adroddiad, sy'n nodi fod y gostyngiad mwyaf mewn absenoldeb wedi digwydd yn ystod y ddwy flynedd cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r cosbau.

Dywedodd nifer o'r rhai atebodd yr holiadur fod y cosbau'n rhy isel i annog newid ymddygiad.

Dywedon nhw fod hyn yn arbennig o wir yn achos absenoldeb heb ganiatâd ar gyfer gwyliau yn ystod y tymor ysgol, gan fod yn well gan rai rhieni dalu dirwy o £60 o'i gymharu â phris mynd i ffwrdd yn ystod gwyliau ysgol.

Dywedodd un ymatebwr: "Yn yr ardal ddifreintiedig hon all teuluoedd ddim fforddio pris gwyliau y tu allan i'r tymor ysgol.

"Os gallan nhw, maen nhw'n cynnwys y ddirwy yn rhan o gost y gwyliau (sy'n golygu nad yw'n cael effaith o gwbl)."

Rhannodd rhai gafodd eu holi straeon am asiantaethau teithio yn talu'r ddirwy fel rhan o'r pecyn gwyliau, neu weithiwr cymdeithasol yn talu dirwy ar ran y teulu er mwyn sicrhau na fyddai'n cael effaith niweidiol ar y teulu.

Dywedodd rhai fod lle i gredu fod rhai rhieni'n peidio talu'r dirwyon am nad oedden nhw'n credu y byddai'r awdrudodau lleol yn eu herlyn.

Cyfeiriodd rhai cyfranwyr at achosion lle roedd rhieni'n "chwarae'r system" er mwyn sicrhau na fydden nhw'n cael dirwy.

Mae'r adroddiad yn nodi bod anghysonderau ar draws Cymru o ran pryd roedd dirwyon yn cael eu gosod.

'Dydy e ddim yn gyson'

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heather Ward ddirwy am fynd â'i merch ar wyliau yn ystod y tymor ysgol

Dywedodd Heather Ward o Gaerdydd ei bod hi wedi gweld yr anghysonderau hyd yn oed o fewn yr un awdurdod.

"Es i a fy merch i sgïo am bum niwrnod a chefais fy nirwyo £60 am ei chymryd o'r ysgol," meddai.

"Fe aethon ni gyda grŵp o 11 o bobl. Roedd dau blentyn arall, yr un oed ond ysgol wahanol filltir i lawr y ffordd, chawson nhw ddim o'u dirwyo. Dydy e ddim yn gyson."

Mae'r adroddiad yn argymell cryfhau'r canllawiau neu sefydlu un polisi cenedlaethol yn hytrach na chael gwared ar ddirwyon.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn ystyried y cynigion yn yr adroddiad ochr yn ochr â thystiolaeth arall sydd wedi ei gasglu fel rhan o'n hadolygiad ehangach i'n polisi presenoldeb yng Nghymru."