Cymru yw'r unig wlad i wella'i hamseroedd aros canser
- Cyhoeddwyd
Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd wedi gweld gwelliant yn ei hamseroedd aros canser o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.
Mae ymchwil gan y BBC yn dangos bod 87.3% o gleifion wedi eu gweld o fewn deufis yn 2017-18.
Roedd hyn yn gynnydd o'r 85.8% a welwyd yn 2012-13, ond mae'n parhau i fod yn is na'r targed o 95%.
Mae gan y GIG yn Lloegr darged is o 85%, ond wnaethon nhw ddim cyrraedd hynny chwaith gydag ond 82.4% yn cael eu gweld o fewn 61 diwrnod.
'Realiti trist'
Yng Nghymru fe wnaeth 959 o'r 7,525 o gleifion canser aros dros 62 diwrnod i gael eu gweld.
Fe wnaeth yr astudiaeth edrych ar berfformiad y gwasanaethau iechyd ar draws y DU o 2012-13.
Mae nifer y cleifion ar draws y DU sydd wedi gorfod aros dros ddeufis am driniaeth canser yn dilyn ymgynghoriad brys wedi cynyddu o 81% yn y pum mlynedd diwethaf.
Ond mae gwahaniaethau mawr rhwng y gwledydd gyda'r niferoedd yng Nghymru'n codi o 22% o'i gymharu â chynnydd o 76% yn Lloegr, 138% yng Ngogledd Iwerddon a 180% yn yr Alban.
Mae Cymru'n rhannu'r un targed â'r Alban a Gogledd Iwerddon o ran dechrau trin 95% o gleifion canser o fewn 61 diwrnod. Dyw Lloegr heb gyrraedd eu targed nhw o 85% ers pum mlynedd.
Ond dyw GIG Cymru yn ei gyfanrwydd heb daro'r targed ers 10 mlynedd, ac mae gwahaniaethau rhwng y gwahanol fyrddau iechyd o fewn y wlad.
Y tro diwethaf i Hywel Dda gyrraedd y targed oedd ym mis Rhagfyr 2009. Caerdydd a'r Fro oedd y bwrdd iechyd diwethaf i'w gyrraedd, ym mis Gorffennaf y llynedd, ond nawr nhw sy'n perfformio waethaf yng Nghymru.
Dywedodd Richard Pugh, pennaeth gwasanaethau elusen Macmillan yng Nghymru, fod "realiti trist" tu ôl i'r ffigyrau oedd yn dangos nad yw Cymru gyfan wedi cyrraedd eu targed ers 2008.
Ychwanegodd bod miloedd o bobl yng Nghymru yn "wynebu'r ofn a'r risg fod eu hiechyd yn dirywio ymhellach oherwydd yr oedi cyn derbyn eu triniaeth canser".
"Mae cael y driniaeth iawn ar yr adeg iawn yn cael effaith anferth ar beth sy'n gallu cael ei gyflawni," meddai.
"Mae angen i ni weld diagnosis llawer cynt, a thriniaeth fwy amserol, ac rydyn ni'n gweld hyn yn dod yn flaenoriaeth fel rhan o'r ymdrech tuag at y llwybr canser sengl, sy'n hanfodol os ydyn ni am wneud ein gorau i gleifion canser yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2018
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd1 Mai 2018