Effaith amseroedd aros hir ar gleifion yn 'aruthrol'
- Cyhoeddwyd
Mae amseroedd aros hir am driniaeth iechyd yn cael effaith "aruthrol" ar rai cleifion a'u teuluoedd, yn ôl adroddiad newydd.
Mae'r cyrff sy'n cynrychioli cleifion yn y Gwasanaeth Iechyd yn dweud bod cleifion yn wynebu problemau iechyd meddwl, trafferth teuluol, colli swyddi a dibyniaeth hirdymor ar foddion lleihau poen oherwydd oedi am driniaeth.
Mae'r adroddiad yn dweud bod un claf wedi aros dros 100 wythnos am lawdriniaeth ar ben-glin, ac yn ychwanegu mai methu targedau am ofal yw'r "norm" yng Nghymru erbyn hyn.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod bod rhai cleifion wedi bod yn disgwyl yn hirach na'r hyn sy'n dderbyniol.
Caiff sawl achos o aros yn hir eu hamlygu yn adroddiad Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymunedol yng Nghymru, gan gynnwys y claf sydd wedi aros dros 100 wythnos am lawdriniaeth pen-glin, a sydd dal heb sicrwydd am faint yn fwy sydd rhaid aros.
Fe ddywedodd claf arall fod rhaid iddo wisgo cathetr am bron i flwyddyn ar ôl i lawdriniaeth gael ei ganslo.
Er bod yr adroddiad yn cydnabod rhai gwelliannau mewn perfformiad, mae'n dweud nad yw'r targedau presennol yn arwyddocaol nac yn "gyrru gwelliannau parhaus".
Mae'n ychwanegu mai methu targedau yw'r "norm" yng Nghymru, a bod hynny'n cael ei dderbyn.
Faint o bobl sy'n aros?
Ar hyn o bryd, mae tua 420,000 o gleifion yn aros am driniaeth yng Nghymru.
Fe wellodd perfformiad cyfeirio at driniaeth ychydig fis diwethaf, ond mae dal dros 19,000 (4.5%) sydd wedi bod yn aros am dros naw mis.
Mae tua 8% o gleifion wedi bod yn aros am rhwng chwe mis a naw mis.
Beth yw'r pryderon?
Roedd yr adroddiad yn ystyried profiadau cleifion, gan ddarganfod pryderon mewn sawl maes:
Delio gyda phoen tra'n aros, ac amseroedd aros hir am glinigau i ddelio gyda phoen;
Methu gwneud tasgau dydd i ddydd;
Unigrwydd a iechyd meddwl;
Poen mor wael fel bod pobl yn talu am driniaeth breifat;
Dim urddas o ganlyniad i ddibynnu ar eraill am ofal personol;
Effaith ar berthnasau a bywyd teuluol;
Teimlad bod aros am driniaeth yn gallu effeithio ar yrfaoedd, ac nad yw budd-daliadau yn ystyried amseroedd aros.
'Pryderus ofnadwy'
Dywedodd Mutale Merrill, Cadeirydd Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymunedol, bod y straeon gafodd eu clywed yn "bryderus ofnadwy", yn ogystal â'r "effaith ar iechyd corfforol a meddyliol pobl, a'u sefyllfa ariannol a swyddi".
"Mae'r achosion yn yr adroddiad yn gyfran fach o'r holl dargedau sy'n cael eu methu bob mis gan y GIG," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn "anodd gweld sut mae targedau clir, sydd wedi eu sefydlu ers tro yn berthnasol i unrhyw un" a bod angen i'r llywodraeth ail-ystyried sut mae'n mesur perfformiad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi bod yn agored am yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd, gan gydnabod bod rhai cleifion wedi bod yn disgwyl yn hirach na'r hyn sy'n dderbyniol.
"Rydyn ni'n gweithio gyda'r byrddau iechyd i wneud gwelliannau ac mae ein buddsoddiad yn GIG Cymru yn uwch nag erioed," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2018
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd30 Awst 2017