Dynes goll Aberystwyth wedi ei darganfod yn 'ddiogel'
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod dynes 39 oed o Aberystwyth oedd ar goll wedi ei darganfod yn ddiogel.
Roedd yna apêl ddydd Mercher am gymorth y cyhoedd i ddod o hyd i Katherine Allen.
Mewn neges ar Twitter ddydd Iau mae'r llu'n cadarnhau ei bod wedi ei darganfod a'i bod yn ddiogel, gan fynegi diolch i bawb fu'n helpu chwilio amdani.
Pan wnaethpwyd yr apêl roedd Ms Allen wedi ei gweld ddiwethaf yn Aberystwyth fore Mawrth.
Bu hofrennydd yr heddlu, dau fâd achub a thimau Gwylwyr y Glannau'n rhan o'r chwilio amdani nos Fawrth a dydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018