Marwolaeth mewn carchar: 'Angen dysgu gwersi' medd AS

  • Cyhoeddwyd
carcharFfynhonnell y llun, PA

Dyw ymchwiliadau i farwolaethau mewn carchardai ddim yn cael eu cynnal yn ddigon cyflym na thrylwyr, yn ôl y grŵp ymgyrchu INQUEST.

Maent yn dweud bod ganddynt bryderon yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yng ngharchardai Cymru.

Yn ôl y grŵp mae ymchwiliadau i farwolaethau naturiol mewn carchardai wedi eu heffeithio gan doriadau i gyllid yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf, y corff sy'n ymchwilio i farwolaethau ymhob carchar.

Ond gwadu'r honiadau mae'r ombwdsmon dros dro Elizabeth Moody gan ddweud eu bod nhw'n cyrraedd targedau.

'Cyffuriau'

Yn ogystal mae Liz Saville Roberts AS wedi rhybuddio y gallai marwolaethau yng ngharchardai Cymru gael eu gweld fel y "gosb eithaf" os ydyn nhw'n cael eu caniatáu i ddigwydd yn gyson.

Mae rhai o adroddiadau'r ombwdsmon yn codi pryderon am rai agweddau o ofal iechyd carcharorion, a'r gofal o garcharorion bregus.

Ymhlith rhai o'r pryderon, roedd marwolaethau carcharorion iau o gyflyrau iechyd mae modd eu rheoli, fel diabetes neu epilepsi.

Neu farwolaethau ymysg carcharorion sydd wedi defnyddio cyffuriau fel 'Spice'.

Disgrifiad,

Rhaid cofio am deimladau'r teulu pan mae eu hannwyliaid yn marw neu'n cael eu hanafu medd yr AS Liz Saville Roberts

Marwolaethau Carchardai Cymru:

  • Rhwng 2007 a 2017 roedd 105 o farwolaethau yng ngharchardai Cymru;

  • Roedd 33 ohonynt yn cael eu nodi fel rhai oedd wedi eu hachosi gan yr unigolyn;

  • Yn 2016, roedd 18 o farwolaethau ar draws y pedwar carchar - Caerdydd, Abertawe, Parc a Brynbuga/Prescoed - y nifer uchaf ar gofnod. Cafodd carchar Berwyn yn Wrecsam ei agor yn 2017;

  • Roedd gan unig garchar preifat Cymru, Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, un o'r cyfraddau marwolaeth uchaf ym Mhrydain yn 2016;

  • Bu farw naw o bobl yno yn ystod y flwyddyn honno - chwech o achosion naturiol a tair wedi'u hachosi gan yr unigolion eu hunain. Roedd dwy farwolaeth yno'n 2017 ac un yn Ionawr 2018.

Ymchwiliadau

Dim ond pedwar ymchwiliad sydd wedi bod i'r marwolaethau yn 2016 - gyda phedwar cwest yn cael eu cynnal ac adroddiad yn cael ei gyhoeddi gan yr ombwdsmon.

Ers 2013 mae chwech o garcharorion wedi marw yng ngharchar Abertawe, pob un wedi'u hachosi gan yr unigolion eu hun.

Does dim ymchwiliadau wedi'u cynnal i'r marwolaethau hyn.

Mae ymchwiliadau yn parhau i saith o farwolaethau yng ngharchar Caerdydd, ac un yn Wysg/Prescoed ac un arall yn Berwyn.

Ffynhonnell y llun, G4S
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan unig garchar preifat Cymru, Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, un o'r cyfraddau marwolaeth uchaf ym Mhrydain yn 2016.

Mae Ms Roberts sy'n AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd ac sy'n aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig sy'n cynnal ymchwiliad i ddarpariaeth carchardai, wedi mynegi ei phryder.

"Mi fydden i yn disgwyl petai rhywun wedi marw mewn carchar o dan ofal y wlad y bydda 'na frys i ddod ag adroddiad allan ag i ddysgu gwersi o hynny," meddai.

"Mae 'na deuluoedd yn dioddef oherwydd hyn. Ond yn fwy na hynny, dwi yn teimlo fy hun, dwi'n falch o fyw mewn gwlad lle does gennym ni ddim y gosb eithaf a dwi ddim yn meddwl dyle ni fod yn diodde' marwolaethau fedrwch chi ddehongli fel y gosb eithaf yn ein carchardai fel arall chwaith," meddai.

Mae disgwyl bod carchardai yn darparu'r un safon o ofal iechyd i garcharorion a'r hyn sydd ar gael yn y gymuned.

'Annerbyniol'

Bu farw un o etholwyr Liz Saville-Roberts, yng ngharchar Berwyn yn Wrecsam yn gynharach eleni - dywedodd fod y cynnydd yn y defnydd o Spice a chyffuriau eraill mewn carchardai, ynghyd â gwaharddiad ysmygu a phroblemau iechyd meddwl ymysg carcharorion, yn gwaethygu'r peryglon.

Wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig, mae INQUEST yn galw am greu corff cenedlaethol newydd fyddai'n goruchwylio gweithredu argymhellion yn dilyn ymchwiliad i farwolaeth mewn carchar.

Mae eu cyflwyniad yn dweud: "Mae marwolaethau mewn carchar yn annerbyniol, ond maen nhw'n nodwedd barhaus, hir dymor o'r system cyfiawnder troseddol.

"Mae'r marwolaethau yn dystiolaeth o anallu llywodraethau olynol i reoli poblogaeth carchar yn ddiogel ac yn effeithiol.

"Mae'r marwolaethau hyn yn codi mwy o bryderon gan fod yr un methiannau a beirniadaethau yn cael eu hail adrodd dro ar ôl tro."

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyffur Spice yn cael ei gysylltu gyda nifer o broblemau o fewn carchardai

Mae'r Ombwdsmon Carchardai a Phrawf dros dro, Elizabeth Moody, yn dweud "Dydyn ni ddim yn derbyn bod safon ein hymchwiliadau i farwolaethau mewn carchardai wedi llacio."

"Ry'n ni'n falch o'n record o ran darparu adroddiadau mewn da bryd."

Mae adroddiadau cychwynnol i'r crwner, cyn gwrandawiadau'r cwest, yn cael eu darparu o fewn yr amser targed o 20 wythnos am farwolaethau naturiol a 26 wythnos am farwolaeth wedi'u hachosi gan yr unigolion eu hun.

Ychwanegodd Ms Moody "does gennym ni ddim rheolaeth dros yr amser mae'n cymryd i grwneriaid glywed cwestau."

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Rydym yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau iechyd i gyfrannu gofal o'r safon uchaf i' carchardai. Mae dros 14,000 o staff wedi derbyn hyfforddiant ar sut i atal hunan niweidio a hunan laddiadau ac rydym yn gwella'r gofal dyddiau cynnar i'r carcharorion.

"Rydym yn ymwybodol fod nifer o'r problemau yn ein carchardai wedi'i achosi gan gyffuriau, dyna pam rydym wedi hyfforddi 300 o gŵn arbenigol cyffuriau, cyflwyno sganeri corff a chwilio wedi ymchwiliadau, a'i gwneud hi'n drosedd i fod a sylweddau yn y carchar.

"Rydym hefyd wedi pasio ein targed ac wedi cyflogi 2,500 swyddog carchar yn ychwanegol erbyn diwedd 2018 - mae hyn yn hanfodol er mwyn rhoi mwy o amser i gefnogi carcharorion unigol."