Dau wedi eu hanafu mewn damwain awyren
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi diodde' mân anafiadau ar ôl i'w hawyren fechan lanio ben i waered mewn cae ger Caernarfon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Faes Awyr Caernarfon am 13.20 yn dilyn adroddiadau fod awyren wedi mynd drwy'r ffens sydd yn amgylchynu'r llain lanio.
Daeth y gwasanaethau brys o hyd i'r awyren ben i waered mewn cae cyfagos.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd eu bod nhw wedi anfon pedwar peiriant i'r safle yn wreiddiol, ond mai dim ond y rhai o Fangor ac o Gaernarfon oedd eu hangen yn y diwedd.
Mewn datganiad, dywedodd heddlu'r Gogledd bod dau o bobl a oedd yn yr awyren wedi llwyddo i ddianc heb gymorth. a bod ganddyn nhw fân anafiadau.
Cafodd y ddau eu cludo i'r ysbyty er mwyn cael eu gweld gan feddygon.
Mae'r Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr wedi cael gwybod am y digwyddiad.