Y Gymdeithas Bêl-droed am 'roi mwy o gyfleoedd i ferched ddatblygu'

Merched yn chwarae pêl-droed
Disgrifiad o’r llun,

Mae 11 o glybiau wedi derbyn trwydded gan CBDC i redeg academi i ferched dan 13 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae'r penwythnos hwn yn nodi dechrau swyddogol ar gynllun newydd i geisio cryfhau pêl-droed merched ar lawr gwlad yng Nghymru.

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) eu bwriad i ailstrwythuro'r llwybr datblygu i ferched - gyda'r nod o sicrhau tegwch a chydraddoldeb, ac i gydymffurfio â rheolau UEFA a FIFA.

Mae 11 o glybiau ar draws y wlad wedi derbyn trwydded gan CBDC i redeg academi i ferched dan 13 oed - pump yn y gogledd a chwech yn y de.

Mae academi genedlaethol i ferched bellach wedi ei lansio gyda'r gemau cyntaf yn cael eu chwarae dros y penwythnos.

Non ac Alaw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Non (chwith) ac Alaw (dde) yn falch o'r cyfle i allu siarad Cymraeg yn yr academi

Mae'n gyfnod cyffrous i aelodau academi bêl-droed merched Caernarfon - un o'r clybiau sydd wedi derbyn trwydded gan y gymdeithas.

Yn ôl Alaw, sy'n aelod o'r academi, mae yna fanteision lu o fod yn rhan o'r academi, a hynny ddim yn unig ar y cae.

"Dwi'n hapus bo' fi'n gallu siarad Cymraeg yn yr academi yma oherwydd yn y timau diwethaf nes i chwarae, ro'n i'n gorfod chwarae yn Saesneg," meddai.

"Dwi'n lwcus i gael coach sy'n siarad Cymraeg efo ni hefyd."

Dywedodd Non ei bod hi'n "hapus o gael chwarae efo genod sydd o'r un safon â fi".

"Dydy o ddim yn bell iawn o adref chwaith, blwyddyn diwethaf ro'n i'n gorfod trafeilio lot," ychwanegodd.

Anna a Katie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna (chwith) a Katie (dde) yn edrych ymlaen at brofi eu hunain yn erbyn timau o safon uchel

Dywedodd Katie, aelod arall o'r academi, ei bod hi'n falch o allu chwarae i glwb sy'n weddol agos i adref.

"Does dim lot o academies yn Sir Fôn, mae'n dda cael chwarae i academi."

Mae Anna yn edrych ymlaen at gael profi ei hun yn erbyn gwrthwynebwyr o safon, a hynny yn fwy cyson.

"Dwi'n hoffi bod lefel yn uwch a 'da ni'n chwarae timau gwell o'i gymharu â beth oedd o yn grass roots."

'Mwy o gyfleoedd i ferched'

Gobaith CBDC yw y bydd y drefn newydd yn cryfhau'r llwybr datblygu i ferched ifanc yng Nghymru.

Y nod yw creu llwybr clir o'r clybiau llawr gwlad a'r academïau i'r rhaglen ranbarthol ac yna yn y pendraw i'r timau rhyngwladol.

Wrth i bêl-droed dyfu mewn poblogrwydd ymhlith merched, mae mwy bellach yn ymwneud â'r gamp.

Mae hyn yn golygu gall y safon amrywio rhwng, ac o fewn, timau ar lawr gwlad gyda'r gymdeithas yn dweud eu bod am sicrhau bod pob chwaraewr yn cael ei herio.

Dewi Owen, sy'n hyfforddi yn academi Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae dechrau'r cynllun gyda thimau dan 13 oed yn benderfyniad doeth, meddai Dewi Owen

Dywedodd Drew Sherman, pennaeth Academïau'r Gymdeithas Bêl-droed eu bod wedi cyflwyno'r rhaglen hon er mwyn i chwaraewyr o dan 13 oed "chwarae mewn cystadleuaeth unigryw iddyn nhw".

"Dyna'r newid mwyaf – llenwi'r gwagle er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd i ferched," esboniodd.

"Mae hynny hefyd yn caniatáu i'n rhaglen ranbarthol ni ganolbwyntio ar y chwaraewyr mwyaf talentog sydd â chyfle gwirioneddol o gael gyrfaoedd gyda'r tîm cenedlaethol."

Timau merched dan-13 oed fydd y cyntaf i fanteisio ar y drefn newydd, sy'n benderfyniad doeth yn ôl Dewi Owen, sy'n hyfforddi gydag academi Caernarfon.

"Dwi'n meddwl bod y penderfyniad iawn 'di cael ei wneud o ran dechrau efo'r oedran yma, achos 'da ni 'di gweld dros y blynyddoedd niferoedd y genod sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed yn cynyddu a thimau newydd yn sefydlu bob tymor," meddai.

"So dwi'n meddwl oedd o'n bwysig bod o ddim yn effeithio ar y timau sy 'na yn barod ar lawr gwlad, ac yn amlwg dibynnu ar genod y timau yna i greu'r tîm academi.

"Fydd ond colli dau neu dri o'r timau hynny ddim yn effeithio arnyn nhw gymaint â 'sa nhw 'di mynd am oedran arall - 'falla 'sa un neu ddau o dimau di stopio fel arall."

Elena Gwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elena Gwyn Jones yn dweud bod rhai rhieni yn pryderu gan nad oes llwyfan academi i ferched o bob oed

Mae merch Elena Gwyn Jones yn rhan o academi Caernarfon, ac mae hi'n dweud mai ond dechrau'r daith yw hyn.

"Mae pethau yn gwella, ond mae lle i fynd hefyd. Does dim llwyfan academi i ferched o bob oedran," meddai.

"Dwi'n gwybod fod rhai rhieni wedi cael pryderon a bo' nhw ddim yn gwybod lle maen nhw am yrru eu genod achos bod y strwythur wedi newid a bod dim llwyfan iddyn nhw.

"O ran oedran Non (ei merch) 'da ni 'di bod yn lwcus, so mae'n gychwyn da."

Bydd academi merched Caernarfon yn wynebu Wrecsam yn eu gêm gyntaf o dan y drefn newydd ddydd Sadwrn.

Yn y gemau eraill fe fydd Cei Connah yn wynebu'r Seintiau Newydd, Caerdydd yn herio Met Caerdydd, Y Bari yn erbyn Abertawe a Llansawel yn wynebu Hwlffordd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.