Ai côr plant o Gymru fydd yn ennill?
- Cyhoeddwyd

Aled Jones ydy un o gyflwynwyr y gystadleuaeth fydd i'w gweld ar BBC One brynhawn Sul
Bydd dau o gorau ysgol Cymru yn cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth rhaglen deledu Songs of Praise i gorau ifanc yn hwyrach dydd Sul.
Bydd disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn o'r Porth yn Y Rhondda yn canu yn rownd derfynol cystadleuaeth Côr Ifanc y Flwyddyn Songs of Praise.
Ac fe fydd Côr Ysgol Y Strade, Llanelli yn cystadlu yn y categori hŷn ar ôl ennill eu lle yn ystod y rhaglen a gafodd ei ddarlledu dydd Sul diwethaf.
Cafodd y gystadleuaeth ei ffilmio yng nghanolfan Pontio ym Mangor.

Fe ganodd Côr Llwyncelyn "Fel yr Hydd", sy'n seiliedig ar Salm 42, yn y rownd gyn-derfynol
Yn ôl arweinydd cor Ysgol Llwyncelyn, Elin Llywelyn-Williams, roedd hi'n brofiad bythgofiadwy.
"Pan glywon ni bod ni'n drwyddo i'r rownd derfynol, doedden ni ddim yn gallu credu'r pet, a bod yn onest, achos mi o'dd y safon mor uchel.
"Roedd pump o gorau yn y gystadleuaeth, felly ro'n ni mor, mor falch o gyrraedd y rownd derfynol."
Cyflwynwyr y rhaglen 'Songs of Praise: Young Choir of the Year' ydy'r Cymry Aled Jones a Josie D'Arby, a'r beirniad ydy Carrie Grant, JB Gill a Ken Burton.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar BBC One am 14:40

Côr Ysgol y Strade yn dathlu y tu allan i ganolfan Pontio ym Mangor ar ôl ennill eu lle yn y rownd derfynol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd6 Mai 2018