Cymru i gadw gemau cystadleuol yn stadiwm Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale yn sgorio yn erbyn Gwlad BelgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stadiwm Dinas Caerdydd oedd y llwyfan ar gyfer y fuddugoliaeth hanesyddol dros Wlad Belg yn 2015

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd gemau cystadleuol y tîm cenedlaethol yn parhau i gael eu chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd am yr ymgyrch nesaf.

Yn gynharach yn y mis fe gyhoeddodd CBDC y byddai gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen ym mis Hydref yn cael ei chwarae yn Stadiwm Principality.

Dyna fydd y tro cyntaf ers 2011 i'r tîm chwarae yn stadiwm fwyaf Cymru, sydd yn dal tua 74,000 o gefnogwyr.

Ond dywedodd CBDC y byddai'r gemau yng Nghynghrair y Cenhedloedd a rowndiau rhagbrofol Euro 2020 yn aros yn stadiwm CPD Dinas Caerdydd.

'Cadarnle'

Mae Stadiwm Dinas Caerdydd wedi cael ei ystyried yn gadarnle i'r tîm cenedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda'r tîm yn colli dim ond dwy o'r 16 gêm ddiwethaf maen nhw wedi'u chwarae yno.

Dyna ble cafodd eu holl gemau cartref eu chwarae yn ystod ymgyrch lwyddiannus Euro 2016, ac fe gafodd yr un maes ei ddefnyddio ar gyfer ymgyrch Cwpan y Byd 2018.

Dywedodd y rheolwr ar y pryd Chris Coleman yn dweud fod yn well ganddo aros yn Stadiwm Dinas Caerdydd, sydd yn dal 33,000, na symud i Stadiwm Principality.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan CBDC ddydd Llun ar eu gwefan, mewn neges yn hysbysu cefnogwyr am y tocynnau tymor newydd.

Bydd Cymru'n wynebu Gweriniaeth Iwerddon gartref ar 6 Medi a Denmarc gartref ar 16 Tachwedd yn eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Yn dilyn hynny bydd eu grŵp rhagbrofol yn cael ei ddewis ym mis Rhagfyr ar gyfer Euro 2020, gyda'r gemau hynny i gyd yn cael eu chwarae yn ystod 2019.