Ateb y Galw: Y gantores Kizzy Crawford

  • Cyhoeddwyd
Kizzy Crawford

Kizzy Crawford, y gantores a'r cyflwynydd, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Mererid Hopwood yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd ar stôl fach bren o flaen y teledu yn nhŷ un o ffrindiau Mam tra roedd Mam a'i ffrind yn y gegin yn siarad. O'n i'n tua 2 oed a dwi'n cofio teimlo'n grac a trist nad oedden nhw'n cynnwys fi yn y sgwrs!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Noel Fielding - o'n i'n obsessed gyda fe!

Disgrifiad o’r llun,

Mae pawb yn hoffi rhywun sy'n gallu gwneud iddyn nhw chwerthin...

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Yfed gormod ar ôl chwarae gig ym Merthyr ac yna gorfod mynd mewn ambiwlans ac wedyn chwarae gig yn Ponty y diwrnod wedyn... worst hangover ever...!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wythnos diwethaf yn gwylio Peter Rabbit yn y sinema gyda fy chwaer fach.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n beirniadu fy hun gormod.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae hwnna'n gwestiwn anodd - mae 'na gymaint o lefydd byddai'n dweud yw fy hoff le. Dwi'n dwli ar y mynyddoedd yng nghefn gwlad a natur a mae'r pethau yma bron ym mhob man.

Dwi'n caru lle dwi'n byw yn Aberfan a hefyd yn caru Caerdydd, Bannau Brycheiniog a mynyddoedd y gogledd a gerddi Tyglyn yng Nghiliau Aeron.

Ffynhonnell y llun, Kizzy Crawford
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gerddi yma yn Nhyglyn, Ciliau Aeron yn agos at galon Kizzy

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fi 'di cael llwyth o nosweithau grêt, 'sai gyda hoff un ond maen nhw i gyd i wneud gyda naill ai cerddoriaeth neu natur.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Creadigol, ysbrydol, figan.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff lyfr yw The Shack gan W M Paul Young.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Erykah Badu achos hi yw un o fy nylanwadau mwyaf.

O Archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i gi o'r enw Mabli i helpu fi gyda fy mhryder ac hefyd achos fi'n caru cŵn ac anifeiliaid.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Rhoi mlaen gŵyl cerddorol anhygoel yn y mynyddoedd a'r goedwig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kizzy wedi canu mewn gwyliau di-ri' ar draws Cymru, a thu hwnt - byddai hi'n sicr yn gwybod beth sydd ei angen er mwyn cynnal gŵyl lwyddiannus!

Beth yw dy hoff gân a pham?

Mae'n newid o dydd i ddydd, ond ar hyn o bryd - H-Gang gan Donald Fagen achos dwin caru'r harmonïau a'r naws jazz.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Rhywbeth figan gydag afocado, rhywbeth figan gyda falafel, cacen siocled figan.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Aderyn fel bod fi'n gallu hedfan.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Ed Holden