Ateb y Galw: Y Prifardd Mererid Hopwood

  • Cyhoeddwyd
Mererid Hopwood

Y Prifardd Mererid Hopwood, sydd wedi ennill Y Fedal Ryddiaith, y Goron a'r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol - y ferch gyntaf i wneud hynny - sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Dewi 'Corn' Griffiths yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd ar y sinc a rhes o wynebau oedolion yn fy annog i fwyta asprin mewn jam ar ôl i'm brawd bach ollwng bricsen (yn ddamweiniol!) ar fy mys yn yr ardd. Falle 'mod i'n cofio hwn yn fyw am fod y graith fach yn dal yn glir.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

JPR - allech chi ddibynnu arno bob tro i ddala'r bêl o bellter.

Ffynhonnell y llun, Bob Thomas/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Creodd JPR Williams gryn argraff ar Gymru yn ystod y 70au gyda'i dalent rygbi a'i 'sideburns' gwych!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae sawl digwyddiad yn dod i'r meddwl… un o'r rhai cynharaf oedd ym mhantomeim yr Ysgol Sul - Barti Ddu. Roeddem ni'r merched i gyd mewn sgertiau gwair yn dawnsio, ond pan ddaeth y llen i lawr, roeddwn i ar ôl ar y llwyfan heb fy sgert.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn amlosgfa Bangor yn angladd mam ffrind i mi bythefnos yn ôl.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Digonedd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Pencaer, Sir Benfro. Cynefin.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Cwestiwn anodd. Roedd nos Sadwrn, 2/12/95, yn eitha' arbennig - cael dod adre gyda babi newydd yn frawd i'w ddwy chwaer, a hynny ar benblwydd ei Dad-cu.

Disgrifiad o’r llun,

Cofeb i Waldo Williams yn Rhos-Fach, Mynachlogddu

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Dail Pren gan Waldo Williams. 'Sdim ots pa mor aml dwi'n darllen hwn, dwi'n dod o hyd i rywbeth newydd ynddo.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Mae'r cwestiynau'n mynd yn anoddach… Te Deg gyda Mama, Mamgu ac Anti Beryl gan fod cymaint wedi digwydd ers iddyn nhw fynd. (Byse croeso mawr i Pantycelyn alw os byse fe digwydd bod yn rhydd.)

Wedyn, gyda'r nos, rhannu gwin coch gyda Paul Robeson, gan obeithio y byddai mewn hwyl canu.

O Archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwlen i ddysgu crefft cwrwgla.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i ben Garn Fawr, cael awr fach lonydd cyn casglu'r teulu pell ac agos i rannu storis dros swper mas-tu-fas a gwylio'r machlud.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Dibynnu ar yr hwylie, ond ymhlith y dewis byddai geiriau Emrys ar Arwelfa - dyrchafol; Merched Mwmbai - atgofion carlamus am ymarferion Bromas yn y garej; a wedyn naill ai Cân Walter, Don't Worry 'Bout a Thing neu'r Dref Wen - pob rheswm dan haul.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Madarch. Mecryll. Mwyar.

Disgrifiad o’r llun,

Efallai fod enwau'r ddwy 'MH' yn debyg, ond hoffai Mererid swnio fel Mary hefyd

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Rhywun sydd â llais canu unawd fel Mary Hopkin.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Kizzy Crawford