Ailedrych ar dystiolaeth achos llofruddiaeth Paul Savage
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn bwriadu adolygu'r dystiolaeth fforensig yn y gobaith o ddatrys achos marwolaeth postmon o Sir y Fflint 15 mlynedd yn ôl.
Cafodd Paul Savage, 30 oed, ei ganfod ag anafiadau difrifol ar Ffordd Clayton yn Wyddgrug, ar 4 Chwefror 2003.
Roedd wedi bod yn dosbarthu llythyrau pan ymosodwyd arno gyda baton pren.
Bu farw yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ddiweddarach.
Er gwaetha' gwobr ariannol sylweddol iawn gan y Post Brenhinol ac ail ymchwiliad i'r achos yn 2009, does neb wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â'r achos.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd y bydd tystiolaeth gafodd ei gasglu ar y pryd yn cael ei adolygu wrth i dechnoleg DNA ddatblygu.
Dydy mam Paul, June White, ddim wedi rhoi'r gorau i ymgyrchu i ganfod y rhai oedd yn gyfrifiol am ladd ei mab.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd ei bod yn falch bod yr heddlu yn edrych ar yr achos unwaith eto: "Mae wedi bod yn amser rhy hir.
"Dwi am i bobl yn y gymuned wybod na fydda i fyth yn rhoi'r gorau iddi."
Roedd Mr Savage wedi symud i ardal Yr Wyddgrug o ardal Sale ym Manceinion ychydig cyn ei farwaolaeth.
Roedd yn byw ym mhentre'r Waun gyda'i bartner Charlotte a'u merch bedair oed, Regan.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad yw unrhyw achos sydd ddim wedi ei ddatrys byth yn cau ac y bydd yr heddlu yn ymchwilio i unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth newydd a all gynorthwyo teulu Paul Savage i gael cyfiawnder.
Mae technoleg DNA yn datblygu ac mae'r Ditectif Uwch Arolygydd Iestyn Davies wedi gofyn am adolygiad o'r dystiolaeth fforensig gafodd ei gasglu i weld a oes posibilrwydd cael tystiolaeth newydd.
Fe fydd yr heddlu yn ymweld â mam Mr Savage, June, a bydd yn cael ei diweddaru, ond ar hyn o bryd does 'na ddim digon o dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad newydd.
Mae Mrs White, sydd bellach yn byw yn Cumbria, yn gobeithio y bydd rhywun yn cynnig gwybodaeth all gynorthwyo'r heddlu i ddatrys yr achos.
Mae'r heddlu yn credu bod bod yr allwedd i ddatrys yr achos yn y gymuned.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2013