Urdd: Cwyn am orfod darparu cyfeilydd ei hun
- Cyhoeddwyd
Mae unawdydd sy'n paratoi i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed eleni yn anfodlon ei fod wedi gorfod dod o hyd i'w gyfeilydd ei hun er mwyn cystadlu.
Mae Siôn Eilir Roberts o Ruthun wedi cyrraedd y genedlaethol yn y gystadleuaeth unawd rhwng 19-25 oed.
Ond mae wedi cael gwybod gan y trefnwyr bod yn rhaid i gystadleuwyr yn y gystadleuaeth honno ddod â chyfeilydd gyda nhw.
Wrth ymateb i'r gŵyn, dywedodd Bwrdd Eisteddfod yr Urdd bod y drefn wedi ei newid "yn dilyn sylwadau dros y blynyddoedd oddi wrth gyfeilyddion, cystadleuwyr a hyfforddwyr", a'i fod yn rhan o arbrawf tair blynedd.
Wrth fynd â'i gŵyn at raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Mawrth, gofynnodd Mr Roberts pam fo'r Urdd wedi penderfynu gwahaniaethu rhwng cystadleuthau o ran oed.
"Maen nhw'n darparu i rai dan 21 oed.
"Yr un ydy'r tâl aelodaeth - pam ddim yn cynnig yr un cyfleoedd?"
Ychwanegodd Mr Roberts fod talu am gyfeilydd yn ddrud, a bod yna gost ychwanegol o deithio i Lanelwedd a thalu am docyn i'r cyfeilydd fynd i fewn i'r ŵyl.
Ychwanegodd ei fod wedi bod yn ffodus o fod wedi dod o hyd i gyfeilydd oedd yn barod i'w helpu ond nad oedd hynny'n esgusodi'r anghyfiawnder.
Safbwynt cyfeilydd
Cytuno â sylwadau Mr Roberts wnaeth y cyfeilydd Eirian Owen, hyfforddwr ac Arweinydd Côr Godre'r Aran: "Mae eisteddfodau mawr eraill y wlad yma yn caniatáu cyfeilydd swyddogol, yn y Genedlaethol, yn Llangollen, ac yn yr Urdd hefyd.
"Pedwar darn sydd yna - dim ond pedwar - dydyn nhw ddim yn heriol, dydyn nhw byth yn rhy heriol yn yr Urdd.
"Mae'r cyfeilyddion - petaen nhw wedi cael eu penodi i wneud y gwaith - mi fydden nhw wedi cael blwyddyn i edrych arnyn nhw, achos dyna pryd mae'r rhestr testunau yn dod allan.
"Falle bod yna fantais i ddod â'ch cyfeilydd eich hun, ond dwi hefyd wedi gweld aml i enghraifft pan oedd hi'n anfantais pan oedd ambell un yn dod â'i gyfeilydd ei hun, a hwnnw ddim yn ddigon da a dweud y gwir ynde. Byddai'n well i ambell un fod wedi cymryd cyfeilydd swyddogol.
'Ymateb i sylwadau'
Wrth ymateb i'r gŵyn, dywedodd yr Urdd: "Mae Bwrdd Eisteddfod yr Urdd wedi newid y drefn gyfeilio parthed cystadlaethau Unawdau 19-25 oed yn dilyn sylwadau dros y blynyddoedd oddi wrth gyfeilyddion, cystadleuwyr a hyfforddwyr.
"Mae'r Urdd wedi ymateb i'r sylwadau er mwyn rhoi chwarae teg i'r unawdwyr ac eleni rydym yn disgwyl bod pob cystadleuydd yn dod â chyfeilydd ei hunan - fel gyda chystadlaethau eraill yr Eisteddfod, e.e. Unawd Allan o Sioe Gerdd, cystadlaethau offerynnol.
"Arbrawf tair blynedd yw'r cyfan ac mae'r drefn newydd wedi'i nodi yn y Rhestr Testunau sydd wedi'i gyhoeddi ers blwyddyn.
"Fel gyda phob elfen arall o'r Eisteddfod, fe fyddwn yn asesu'r cyfan ar ôl Eisteddfod Brycheinion a Maesyfed a hynny ar sail sylwadau pellach gan gystadleuwyr, hyfforddwyr a beirniaid."