Cyn-brif swyddog cynnwys yn hawlio mwy na £560,000 gan S4C

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo yn 2023
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-brif swyddog cynnwys S4C yn ceisio hawlio mwy na hanner miliwn o bunnoedd gan y darlledwr.
Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo yn ddirybudd, o'i swydd oedd yn talu cyflog o £130,000, yn 2023.
Ar y pryd, honnwyd iddi fod yn feddw ac ymddwyn mewn ffordd fygythiol tra'n mynychu Cwpan Rygbi'r Byd yn Nantes yn rhinwedd ei swydd.
Mewn dogfennau sydd wedi cael eu rhyddhau gan yr Uchel Lys i raglen Newyddion S4C, mae Ms Griffin-Williams yn gwadu unrhyw gamymddwyn.
Mae'n dweud bod ei diswyddo fel prif swyddog cynnwys S4C, a'r cyhoeddusrwydd ynghylch hynny, wedi "dinistrio" ei gyrfa ym myd darlledu, a'i bod wedi ei "gorfodi i ymgymryd â gwaith rhan-amser, hunangyflogedig".
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd2 Mai 2023
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
Yn ôl dogfennau'r llys, mae'n hawlio £565,000 mewn colledion o ran enillion.
Mae hefyd yn hawlio symiau sydd heb eu nodi am niwed i'w henw da, ei hiechyd a'i theimladau.
Mae hefyd yn hawlio i gyn-gadeirydd S4C Rhodri Williams gamweithredu mewn swydd gyhoeddus.
Mewn dogfennau hirfaith sydd wedi eu rhyddhau gan y llys, mae Ms Griffin-Williams yn honni iddi gael ei diswyddo ar unwaith gan Rhodri Williams, heb gyfle i drafod nac apelio'r penderfyniad.
Yn y dogfennau, mae Ms Griffin-Williams hefyd yn honni mai "drwgdeimlad yn ei herbyn" oedd cymhelliad Rhodri Williams
Mae hefyd yn honni iddi gael ei diswyddo yn syth wedi iddi gyflwyno strategaeth S4C ar gyfer 2024/25 i "ryw 100 o bobl o'r sector cyfryngol Cymreig".
Dywedodd bod hynny wedi ei wneud "er mwyn achosi'r radd uchaf o sylw cyhoeddus a chymaint o ofid, embaras a chywilydd â phosibl".
Mae dogfennau ar ran Llinos Griffin-Williams hefyd yn honni i S4C dorri cyfreithiau diogelu data - honiad mae'r darlledwr yn ei wadu.

Mae Rhodri Williams yn gwadu rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau
Mae dogfennau'r llys yn amlinellu cynnwys ei llythyr diswyddo, oedd yn dweud ei bod "wedi cael ei gweld yn amlwg yn feddw i'r graddau i hynny gael effaith negyddol ar ei hymddygiad" ac iddi ddefnyddio "iaith oedd yn bwlio ac yn gwbl amhroffesiynol mewn negeseuon testun".
Mae dogfennau'r llys hefyd yn honni bod Ms Griffin-Williams wedi sarhau cyn-fewnwr rygbi Cymru, Mike Phillips, ar lafar, gan ddefnyddio rheg i ddweud nad oedd ei sgiliau iaith Gymraeg yn ddigon da, ac "na fyddai unrhyw un yn gwybod pwy oedd e hebddi hi".
Mae hi'n gwadu'r honiadau hynny.
Mae Ms Griffin-Williams hefyd yn honni i Rhodri Williams ryddhau gwybodaeth i'r wasg - cyhuddiad mae Mr Williams yn ei wadu.
Mae'n cyfeirio at sawl adroddiad gan Newyddion S4C a Nation.cymru yn ystod cyfnod cythryblus i'r darlledwr, pan arweiniodd cyhuddiadau o fwlio a diwylliant o ofn honedig at ddiswyddo'r cyn-brif weithredwr, Sian Doyle.
Mae Ms Doyle wedi gwadu unrhyw gamymddwyn yn y gorffennol, ac mae hi hefyd wedi dechrau achos ar wahân yn erbyn S4C a Rhodri Williams yn yr Uchel Lys.

Dywedodd S4C nad oedd hi'n briodol iddyn nhw wneud sylw ar achos cyfreithiol cyfredol
Yn ei amddiffyniad, mae Rhodri Williams yn gwadu rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau.
Mae dogfennau llys ar ei ran yn amlinellu i dri unigolyn sydd yn gweithio o fewn i'r diwydiant darlledu Cymreig gysylltu ag ef yn amlinellu pryderon am ymddygiad Ms Griffin-Williams yn Nantes.
Dywed y ddogfennaeth i Mr Williams dderbyn cyngor cyfreithiol y gallai ddiswyddo'r cyn-brif swyddog cynnwys am gamymddwyn difrifol.
Mae'n dweud iddo "geisio cyfathrebu hynny... heb oedi, mewn amgylchedd lle gallai'r pennaeth adnoddau dynol... ei chefnogi".
Mae dogfennau amddiffyniad S4C hefyd yn nodi bod "angen delio â'r sefyllfa yn gyflym".
Mae'r dogfennau hefyd yn dweud i aelodau eraill bwrdd S4C gefnogi penderfyniad Rhodri Williams i ddiswyddo Ms Griffin-Williams yn ddiweddarach.
'Wedi brwydro i gael llais'
Mewn datganiad i Newyddion S4C ddydd Iau, dywedodd Llinos Griffin-Williams: "Am ddwy flynedd, rwy' wedi brwydro i gael llais, hyd yn oed drwy faterion iechyd difrifol.
"Does dim dewis gen i ond cymryd camau cyfreithiol i ddwyn y partïon sydd yn rhan o'r achos hwn i gyfrif.
"Mae'n fy nhristau yn fawr fy mod yn herio darlledwr rwy' wedi ei gefnogi drwy gydol fy ngyrfa, ond rwy'n credu bod amlygu'r drwgweithredu yn fy achos i sicrhau newid sefydliadol yn hanfodol - fel nad yw menywod yn cael eu tawelu, fel bod atebolrwydd yn cael ei orfodi, a llywodraethiant yn cael ei gynnal."
Dywedodd S4C nad oedd hi'n briodol iddyn nhw wneud sylw ar achos cyfreithiol cyfredol.
Doedd Rhodri Williams ddim am wneud unrhyw sylw pellach chwaith.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.