Cwyn paralympiwr am ddiffyg darpariaeth gofal

  • Cyhoeddwyd
Paul DaviesFfynhonnell y llun, Matthew Lloyd/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Paul Davies yn cystadlu am ei fedal efydd ym mis Medi 2012

Mae chwaraewr tennis bwrdd Paralympaidd o Ben-y-bont ar Ogwr yn dweud y gallai ei yrfa ddod i ben oherwydd diffyg darpariaeth gofal gan ei gyngor lleol.

Enillodd Paul Davies, 51 oed, fedal efydd yng ngemau Paralympaidd Llundain yn 2012.

Erbyn hyn, mae'n dweud bod y gofal sy'n cael ei gynnig iddo gan yr awdurdod lleol yn "warthus" sy'n golygu nad yw'n gallu cystadlu a hyfforddi gyda thîm tennis bwrdd para Prydain.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn mynnu bod Mr Davies yn cael gofal a chymorth sydd wedi ei gynllunio'n benodol ar gyfer ei anghenion, mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill.

Ffynhonnell y llun, Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw gwraig Mr Davies, Deborah, yn sydyn yn 2016

Mae Mr Davies, o Ogledd Corneli ger Porthcawl, yn chweched ar restr detholion fydeang yn ei ddosbarth am chwarae tennis bwrdd.

Ei wraig Deborah, oedd yn gofalu amdano'n llawn amser tan iddi hi farw'n sydyn yn fuan wedi i Mr Davies ddychwelyd o'r Gemau Paralympaidd yn Brasil yn 2016.

"Rwy' wedi colli fy ngofalwr a fy nghariad pennaf," dywedodd.

Fe gamodd ei fab Jonathan i'r adwy am flwyddyn hyd nes i Paul Davies wneud cais am gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Dywedodd bod angen dau gynorthwy-ydd personol llawn amser yn gweithio rhyw 85 awr yr wythnos i'w helpu.

Byddai hyn, meddai, yn ei alluogi i barhau â'i yrfa i deithio i wersylloedd hyfforddi yn Sheffield a thwrnamentau ledled y byd.

Disgrifiad o’r llun,

Paul Davies yn dathlu wedi ennill medal efydd yn 2012

"Yn ddiweddar, roedd disgwyl i fi fod yn Slofacia a Slofenia ac ym mis Mawrth, mi ddylwn fod wedi teithio i'r Eidal," ychwanegodd.

Dywedodd fod Cyngor Pen-y-bont wedi cynnig digon o arian i gyflogi rhywun am rhwng 32 a 55 awr yr wythnos, ond nad oedd hyn yn ddigon i dalu am rywun i deithio gyda ef.

Ychwanegodd ei fod wedi gwneud popeth gyda'i wraig ac nad oedd wedi gofyn am unrhyw gymorth o gwbl ar y pryd gan y cyngor.

"Ond nawr dydw i ddim yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arna i," meddai.

Mae'r para-athletwr wedi bod yn chwarae tennis bwrdd ers dros 20 mlynedd, ar ôl iddo gael ei anafu mewn damwain beic modur yn 1986.

'Trist iawn'

Yn ôl y Farwnes Tanni Grey-Thompson, roedd hi'n sefylla "drist iawn" petai gyrfa rhywun sy'n cystadlu ar y lefel ucha'n dod i ben oherwydd diffyg cytundeb am becyn cymorth.

Ychwanegodd yr athletwraig Paralympaidd bod na "loteri côd post" yn bodoli ac nad oedd y system yn gweithio cystal ag y dylai.

"Mae sefyllfa Paul yn debyg i nifer fawr o bobl anabl eraill sy'n cael trafferth cael y cymorth cywir sydd ei angen arnyn nhw," meddai.

Mae Aelod Cynulliad UKIP, Caroline Jones, wedi annog cyngor Pen-y-bont i ailystyried achos Paul ac mae wrthi'n ceisio'i helpu i herio'r penderfyniad.

"Dyle ni fod yn falch o'n hathletwyr Paralympaidd, ac yn eu cefnogi ar bob achos," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Paul Davies gyda'i fedal efydd o gemau Paralympaidd Llundain yn 2012

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod nhw'n gwneud pob ymdrech i asesu anghenion gofal unigol ac nad oedd modd datgelu manylion yr achos yma.

Dywedodd yr awdurdod eu bod yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol gan gynnwys gofal iechyd yn ogystal â pha fath o drefniadau teithio oedd eu hangen ar unigolyn.

"Rydym yn cefnogi dyheadau Mr Davies yn llawn ac yn dymuno pob llwyddiant iddo wrth gynrychioli ei wlad," ychwanegodd y datganiad.