Ffrae Pont Hafren: 'Dwi'n weriniaethwr' medd Skates

  • Cyhoeddwyd
ken skates
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ken Skates ymateb yn danllyd i gwestiynau gan yr ACau Dai Lloyd a Neil McEvoy

Mae Ysgrifennydd yr Economi wedi dweud ei fod yn ystyried ei hun yn "weriniaethwr" ond ei fod yn "cydnabod cyfraniad" y Tywysog Charles i Gymru.

Fe wnaeth Ken Skates ei sylwadau yn ystod ffrae arall yn y Senedd ynglŷn ag ailenwi Ail Bont Hafren ar ôl y Tywysog.

Yr wythnos hon fe ddaeth i'r amlwg fod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU i ailenwi'r bont.

I ddechrau roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud dim ond nad oedden nhw wedi "datgan gwrthwynebiad".

'Ymddwyn fel plant'

Wrth godi cwestiwn amserol yn y Siambr ddydd Mercher dywedodd AC Plaid Cymru Dai Lloyd fod 40,000 bellach wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynlluniau, a bod pôl piniwn wedi awgrymu mai dim ond 17% o bobl Cymru oedd o blaid y syniad.

"Mae hynny'n gwrthddweud yn llwyr eich honiad chi, Ysgrifennydd Cabinet, pan ddywedoch chi fod llawer iawn o bobl Cymru'n cefnogi'r cynlluniau yma," meddai.

Ychwanegodd fod y llythyrau gafodd eu cyhoeddi ddydd Llun dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn codi cwestiynau pellach ynglŷn ag i ba raddau roedd Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r newid.

"Mae ymateb y prif weinidog yn y llythyr hwn yn bell o ymateb cychwynnol y llywodraeth," meddai. "Ydi'r llywodraeth wedi camarwain y cyhoedd?"

Disgrifiad o’r llun,

Gofynnodd Dai Lloyd a oedd y llywodraeth wedi "camarwain" y cyhoedd yn eu hatebion

Gwadodd Mr Skates yr honiad hwnnw, cyn ymateb yn danllyd gan awgrymu y gallai Mr Lloyd fod wedi gofyn cwestiwn am fater pwysicach fel colli swyddi yn ardal Abertawe.

"Yn hytrach mae ganddo gwestiwn am enwi pont, nid unwaith ond ddwywaith," meddai'r gweinidog.

Fe wnaeth hynny arwain at gecru yn y Siambr, gyda'r dirprwy lywydd Ann Jones yn diffodd meicroffonau am ychydig eiliadau a dweud bod rhai ACau'n "ymddwyn fel plant".

Yn dilyn hynny dywedodd Mr Skates: "Mae pobl yng Nghymru yn edrych at y Siambr yma am berthnasedd, perthnasedd i'w bywydau, perthnasedd i'w swyddi, perthnasedd i'w cymunedau.

"Yn hytrach mae gennym ni bobl yn cael dadl hunanfoddhaol ar enwi isadeiledd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Neil McEvoy herio Ken Skates i gyfaddef ei fod yn "frenhinwr"

Cafodd y gweinidog wedi ei gyhuddo gan yr AC annibynnol, Neil McEvoy o fod yn "frenhinwr".

"Pam nad ydych chi'n agored a thryloyw gyda phobl Cymru am hyn?" meddai AC Canol De Cymru.

Mewn ymateb dywedodd Mr Skates: "Mae'r aelod yn gwybod nad ydw i'n frenhinwr, mae'r aelod yn gwybod mod i'n weriniaethwr.

"Ond beth mae'r enwi yma'n ei wneud yw cydnabod y cyfraniad mae Tywysog Cymru wedi'i wneud i Gymru, a chydnabod y proffil rhyngwladol sydd gan Dywysog Cymru."